Madfall

Zootoca vivipara

Enwau eraill: budrchwilen, genau-goeg, mablath, botrywilen

Mae'r fadfall yn mesur tua 15cm o hyd gan gynnwys y gynffon. Mae'n amrywiol o ran lliw, ond fel rheol mae'n llwyd-frown (ond gall ddangos lliw melyn, gwyrdd a du hefyd), yn aml gyda rhesi o smotiau neu streipiau tywyllach i lawr y cefn a'r ochrau. Mae ochr isaf gwrywod yn felyn neu oren llachar gyda smotiau du, tra bod gan fenywod foliau mwy gwelw, heb smotiau. Mae gan wrywod bennau mwy a chyrff meinach na'r benywod, ac mae gwaelod y gynffon yn dangos chwydd amlwg. Mae gan fadfallod groen cennog sy'n achosi gwead ac ymddangosiad gleiniog. Gallant symud yn gyflym iawn pan maent yn cael eu haflonyddu.

Mae madfallod yn gaeafgysgu trwy fisoedd y gaeaf rhwng Tachwedd a Mawrth. Maent yn dod i'r golwg yn gynnar yn y gwanwyn ac mae paru yn digwydd ym mis Ebrill. Mae'r benywod yn cynhyrchu’r wyau y tu mewn i'r corff ac yn geni 3-11 o fadfallod bach byw (yn hytrach na dodwy wyau fel madfallod eraill) ym mis Gorffennaf / Awst. Am y rheswm hwn, enw arall am fadfallod yn Saesneg yw ‘viviparous lizards’. Mae madfallod newydd-anedig fel arfer yn dywyll iawn, bron yn ddu mewn lliw, ac yn fach iawn, llai na 5cm o hyd.

 

Beth maen nhw'n ei fwyta

Mae madfallod cyffredin yn bwyta mwydod, gwlithod, pryfed cop, a thrychfilod fel pryfed a cheiliogod rhedyn.

 

Ble a phryd i'w gweld

  • Gellir eu gweld o ddechrau'r gwanwyn (Mawrth / Ebrill), ac maent yn weithgar nes eu bod yn gaeafgysgu yn y gaeaf.

  • Mae madfallod i'w cael mewn amrywiaeth o gynefinoedd, yn enwedig ardaloedd sych ac agored fel coedwigoedd agored, tiroedd gwag a diffaith, gerddi mawr, a rhostiroedd.

  • Peidiwch â symud! Mae’n hawdd eu dychryn ac maent yn cuddio’n gyflym.

Map yn dangos dosbarthiad 10km madfallod yng Nghymru

 

Statws cyfreithiol

Wedi'u gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981

 

Rhywogaethau tebyg

Madfall y tywod (Lacerta agilis)

Mae'r fadfall hon yn brin iawn yn y DU a dim ond mewn ychydig o ardaloedd ynysig yn Dorset, Hampshire, Surrey a Glannau Mersey y mae'n byw yn naturiol. Mae wedi cael ei ailgyflwyno i ardaloedd eraill yn ne-ddwyrain a de orllewin Lloegr a gogledd a gorllewin Cymru. Maent yn ffafrio cynefinoedd twyni tywod a rhostiroedd. Mae madfallod y tywod yn fwy, a mwy llydan a byrdew na madfallod cyffredin. Mae ganddyn nhw drwyn cwta hefyd. Mae benywod yn lliw brown fel tywod, gyda rhesi o smotiau tywyll ar hyd y cefn; mae gan wrywod ochrau gwyrdd sy'n llachar iawn yn ystod y tymor bridio ym misoedd Ebrill a Mai. Mae'r madfallod hyn yn dodwy wyau yn hytrach na geni’r ifanc yn fyw. Mae’n annhebygol iawn gallu gweld madfall y tywod yn ardal Gwastadeddau Gwent.

Madfall y muriau (Podarcis muralis)

Rhywogaethau madfallod y muriau anfrodorol yw'r rhain sydd wedi'u cyflwyno i ardaloedd yn ne Lloegr. Mae madfall y muriau yn tueddu i fod yn fwy ac yn fwy llachar na'r fadfall gyffredin. Maent hefyd yn ystwyth iawn ac yn dringo waliau; anaml y mae madfallod cyffredin yn dringo waliau fertigol. Mae’n annhebygol iawn gallu gweld madfall y muriau yn ardal Gwastadeddau Gwent.

Madfall dŵr

Gellir camgymryd madfallod dŵr am fadfallod pan fyddant allan o’r dŵr. Nid oes gan y madfallod groen cennog, a dim ond pedwar bys blaen sydd ganddyn nhw; mae gan fadfallod bump. Mae madfall yn annhebygol o ganiatáu i chi ei godi, yn wahanol i fadfallod dŵr sy’n galluogi chi  i’w cydio.

A wyddost ti?

Gall madfall ollwng ei chynffon os caiff ei dal gan ysglyfaethwr. Maen nhw'n gadael cynffon sy’n troi a throsi i dynnu sylw'r ysglyfaethwr tra bod gweddill y fadfall yn dianc ar frys. Gelwir yr ymddygiad hwn yn hunandorriad.

 

Dolenni eraill