Tegeirian y wenynen

Ophrys apifera

Enwau eraill: Tegeirian y Gwenyn, Tegeirian Gwenynen

Gyda'i flodyn sy’n debyg i bryfyn, ni ellir camgymryd y tegeirian hwn. Mae'r tegeirian y wenynen yn mesur 10-40cm o daldra, er y gall ambell un cadarn gyrraedd 65cm. Mae'r blodyn yn mesur hyd at 3cm ar draws a gall nifer y blodau ar bob planhigyn amrywio o 2 i 11. Mae gan y tegeirian hwn rosét o ddail yr un lefel a’r ddaear a dwy ddeilen bigfain eliptig hir sy'n tyfu i fyny'r coesyn fel gorchudd.

Mae'r goes yn cynnal nifer o flodau cymharol fawr sydd â gwagle rhyngddynt, gyda sepalau pinc neu wyrdd/binc sy'n edrych fel adenydd, a gwefusau browngoch blewog gydag ymylon crwn a marciau aur, melyn a brown arnynt. Mae’r marciau’n ffurfio siâp ‘U’ neu ‘W’ ar wefus isaf (labellum) y blodyn. Mae’r patrwm yma’n ymddangos yn union fel pen ôl gwenyn bach benywaidd. Mae'r tegeirian hefyd yn rhyddhau arogl gwenyn benywaidd ac yn flewog i'w gyffwrdd. Mae gwrywod yn ceisio paru ag ef ac wrth wneud hynny, hefyd yn peillio’r blodyn. Yn anffodus, nid yw'r rhywogaeth gywir o wenyn (Eucera longicornis) yn byw yn y DU felly credir bod poblogaeth y DU yn hunan-beillio i raddau helaeth.

Gall blodeuo fod braidd yn achlysurol sy’n gwneud hi'n anodd dod o hyd i'r planhigyn yn yr un lleoliad bob blwyddyn. Mewn rhai blynyddoedd gallant ymddangos mewn niferoedd mawr, ac mewn eraill ymddengys eu bod wedi diflannu, dim ond i ailymddangos eto pan fydd yr amodau'n ffafriol! Mae tegeirianau y wenynen (Ophrys) yn bennaf yn rhywogaethau Canoldirol ac o fewn terfyn eithaf eu cyrhaeddiad yng ngogledd Ewrop.

 

Ble a phryd i'w gweld

  • Gellir gweld pigau'r tegeirianau hyn mor gynnar â mis Mai, ond yn tueddu i beidio â blodeuo tan fis Mehefin a Gorffennaf. Y blodau isaf ar y pigyn sy'n agor gyntaf, a'r blodau ar y brig yw'r olaf i agor.

  • Byddwch yn amyneddgar oherwydd gallant gymryd 5 i 8 mlynedd cyn blodeuo!

  • Edrychwch ar dir glaswellt calchaidd, twyni, tir anhrefnus a chwareli.

Map yn dangos dosbarthiad 10km tegeirian y wenynen yng Nghymru

 

Statws cyfreithiol

Dim

 

Rhywogaethau tebyg

Tegeirian cacynaidd (Ophrys apifera var. Trollii)

Mae yna lawer o amrywiaethau o degeirian y wenynen, ond yr un sy'n fwyaf tebygol o ddod ar ei draws yw tegeirian cacynaidd. Mae’n edrych yn wahanol i degeirian y wenynen arferol, gyda gwefus bigfain gul hir heb farciau siâp ‘U’ neu ‘W’, ond â phatrwm brith liw brown yn lle hynny.

 

A wyddost ti?

Mae'r enw genws Ophrys yn air Groeg sy'n golygu ael. Credir bod menywod Rhufeinig wedi defnyddio'r blodyn i dywyllu eu haeliau, neu efallai ei fod yn cyfeirio at ymylon blewog y wefus ym mlodau’r tegeirianau yn y genws hwn.

 

Dolenni eraill