Mursen lygatgoch fawr
Erythromma najas
Mae mursennod llygatgoch fawr gwrywaidd yn ddu yn bennaf, ond gyda llygaid coch tywyll trawiadol a bandiau glas ar frig ac ar waelod yr abdomen (segmentau 1, 9 a 10). Mae ganddynt goesau du ac adenydd clir gyda pterostigma brown gwelw (smotyn adain). Mae'r mursennod hyn yn mesur tua 30-36mm o hyd.
Mae'r fenywod hefyd yn ddu yn bennaf, gyda llygaid browngoch a lliw gwyrdd ar ochrau'r thoracs. Mae ganddynt streipiau antehumera (ysgwydd) melyn byr neu anghyflawn ar gefn y thoracs, ac mae eu pronotum (strwythur tebyg i darian sy'n gorchuddio rhan o'r thoracs) yn dri-llabedog.
Mae larfa’r fursen yn gwbl ddyfrol gyda thagellau allanol o'r enw caudal lamellae sy'n debyg i esgyll mawr ar ddiwedd yr abdomen. Mae larfa’r fursen llygatgoch fawr yn mesur tua 29-32mm o hyd ac mae ganddyn nhw dri caudal lamellae sy'n mesur 8-9mm gydag ymylon crwn, gyda thair streipen o liw tywyllach tua'r pen ôl. Mae'r labiwm neu'r ên sydd â cholfach sy’n estyn yn hir ac yn gul yn y rhywogaeth hon.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Mae'r oedolion yn bwyta trychfilod bach fel pryfed a mosgitos; tra bod y larfa'n hela larfa anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill, cramenogion, mwydod, malwod a phenbyliaid.
Ble a phryd i'w gweld
Maent yn byw mewn dŵr sy'n symud yn araf fel camlesi, pyllau, llynnoedd ac afonydd sy'n llifo'n araf. Edrychwch amdanynt yn gorffwys ar lystyfiant arnofiol. Maent yn gyffredin yn lleol yn ne Cymru a Lloegr.
Gellir eu gweld yn hedfan mis Ebrill hyd at fis Medi.
Cadwch lygad am eu hengroen, sef cast eu croen larfa. Pan fydd larfa'r mursennod yn barod i droi yn oedolion, maent yn dod allan o'r dŵr ac yn bwrw eu crwyn sydd i'w gweld yn aml ar lystyfiant uwchben wyneb y dŵr a chreigiau sy’n amgylchynu cyrff dŵr.
!Cymerwch ofal ger dŵr!
Map yn dangos dosbarthiad 10km mursennod lygatgoch fawr yng Nghymru
Statws cyfreithiol
Dim
A wyddost ti?
Mae mursennod yn gorwedd eu hadenydd ar gau ar hyd eu habdomenau tra bod adenydd gweision y neidr ar 90 gradd (fel awyren). Mae dwy adain fursen yr un maint ac yr un siâp, ac yn meinhau lle maent yn glynu wrth y corff, ond nid yw adenydd blaen ac ôl gweision y neidr yr un siâp. Mae gan y mursennod lygaid llai nad ydyn nhw'n cwrdd yn y canol, ac maen nhw'n tueddu i fod â chorff hirach ac yn deneuach.