Crëyr bach
Egretta garzetta
Petai chi wedi gweld crëyr bach yn y Deyrnas Unedig deng mlynedd ar hugain yn ôl, buasech wedi bod yn ffodus iawn. Ar un amser yn ymwelydd prin iawn o'r cyfandir, mae'r crëyr bach bellach yn gyffredin o amgylch arfordir de Lloegr a Chymru. Ymddangosodd yn gyntaf yn y DU ddiwedd y 1980au, ac fe'i briwyd yn gyntaf yn Dorset ym 1996 a Chymru yn 2002.
Mae gan y crëyr bach hwn blu gwyn cain a gwddf hir, pig du fel dagr, coesau du-wyrdd tywyll hir, a thraed melyn. Wrth orffwyso, mae'r crëyr bach yn aml yn grwmp ac yn gallu edrych yn fach ac yn druenus. Wrth hedfan, mae eu pen a'u gwddf hir yn tynnu mewn i’w corff, a’r coesau a'r traed yn ymestyn y tu ôl i’w cynffon.
Yn ystod y tymor bridio, mae'r crëyr bach yn datblygu crib pen llipa hir a phlu adenydd llaes hir. Ar un adeg, roedd eu plu godidog yn fwy gwerthfawr nag aur ac yn cael eu smyglo i Ewrop yn y 19eg Ganrif i'w defnyddio yn y fasnach hetiau.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Mae'r crëyr bach yn bwydo ar bysgod bach a chramenogion ond hefyd yn cymryd amffibiaid a phryfed mawr. Yn aml fe'u gwelir yn padlo'n frwdfrydig yn y mwd i aflonyddu eu prae.
Ble a phryd i'w gweld
Fe'u gwelir yn bennaf ar aberoedd a dyfrffyrdd yr arfordir, ac weithiau ar wlyptiroedd mewndirol.
Gellir eu gweld trwy gydol y flwyddyn, er bod niferoedd yn cynyddu yn yr hydref a'r gaeaf wrth i adar gyrraedd o'r cyfandir.
Peidiwch ag anghofio edrych i fyny! Fel arfer mae’r crëyr bach yn bridio ac yn clwydo’n gytrefol mewn llwyni a choed ger y dŵr.
Gwrandewch am eu galwadau rhybudd garw os bydd tarfu ar yn eu mannau clwydo.