Uchelwydd

Viscum album

Gellir gweld y llwyn bytholwyrdd adnabyddus hwn yn ffurfio peli crwn mawr hyd at 1m o led ar wahanol goed ond yn enwedig afal a phisgwydd. Mae blodau'r uchelwydd yn fach iawn, yn ddisylw, a chanddynt pedwar petal bach. Mae'r blodau yn ddeuoecaidd sy'n golygu bod blodau gwrywaidd a benywaidd yn cael eu cynhyrchu ar blanhigion ar wahân; felly mae’r planhigion benywaidd yn ddymunol iawn fel addurn yn ystod y Nadolig. Gellir gweld blodau'r uchelwydd o fis Chwefror i Fawrth, ond y dail a'r aeron sydd gan amlaf yn adnabyddus.

Mae'r dail siâp wy, cul yn wyrdd, fel lledr ac yn tyfu mewn parau (maent yn edrych fel propelor bach). Mae'r aeron yn ludiog a gwyn ac fe'u ceir mewn clystyrau o ddwy i chwech. Maent yn ymddangos o tua mis Hydref tan Mai ac yn cael eu gwasgaru gan adar yn bwydo.

Mae’r uchelwydd yn lwyn lled-barasitig sydd â'r gallu i ffotosyntheseiddio (h.y. cynhyrchu ei egni ei hun), ond mae hefyd yn cymryd dŵr a maetholion o'r goeden cynnal gan ddefnyddio gwreiddiau arbenigol.

Mae yna chwe rhywogaeth o bryfed sy'n arbenigo ar fwydo ar uchelwydd, yn cynnwys y tortrics cleisiog yr uchelwydd prin, a'r gwiddonyn uchelwydd a ddarganfuwyd am y tro cyntaf ym Mhrydain yn 2000.

 

Ble a phryd i'w weld

  • Mae dail yr uchelwydd yn wyrdd drwy'r flwyddyn ond yn fwy gweladwy yn y gaeaf unwaith y bydd y coed eraill yn colli eu dail.

  • Edrychwch i fyny! Mae’r uchelwydd yn tyfu'n uchel yn y canopi a gellir ei ddarganfod mewn perllannau, gwrychoedd, parciau a gerddi ar goed afalau, pisgwydd, poplys, drain duon, drain gwynion, masarn a helyg.

Mae dail, aeron a choesau’r uchelwydd yn wenwynig!