Tafod gwern
Taphrina alni
Mae'r pathogen ffwngaidd hwn yn achosi ardyfiant tafod gwern, afluniad sy’n cael ei achosi yn gemegol o wernen wyddau bach benywaidd ffres. Mae ardyfiant tafod gwern yn dyfiant rhyfedd ond amlwg gyda siâp tebyg i dafod ar y gwyddau bach, yn wyrdd ar y dechrau, ac yna’n troi’n felyn, oren, coch neu borffor, ac yn y pen draw yn frown neu'n ddu. Yr oedd unwaith yn brin yn y Deyrnas Unedig, ond bellach yn ymledu ac erbyn hyn mae'n eithaf cyffredin.
Gall conau gwern gario un ardyfiant neu nifer ohonynt, fel arfer yn ymddangos o'r un fan ar wŷdd bach. Mae'r ardyfiant yn aeddfedu ar y gwyddau bach ac yn y pen draw yn rhyddhau eu sborau i'r gwynt ac yn heintio’r coed cyfagos.
Mae’r goeden cynnal, y wernen (Alnus glutinosa), i’w weld ar dir llaith ger afonydd, pyllau a llynnoedd a gall dyfu hyd at 20m o uchder. Mae ganddo risgl tywyll, wedi'i hollti, sy'n aml yn cael ei orchuddio â chen. Mae ei ddail yn grwn, gwyrdd tywyll ac yn bennaf yn ddi-flew a gydag ymyl rhychog, ac mae blaen y dail yn aml wedi'u tolcio. Mae'r blodau'n ffurfio ar y gwyddau bach rhwng mis Chwefror ac Ebrill cyn i'r dail ymddangos. Mae gwyddau bach gwrywaidd yn hir (2-6cm), tenau, melyn ac yn hongian; tra bod y gwyddau bach benywaidd yn wyrdd, siâp wy, yn mesur tua 1cm o hyd ac fe'u ceir mewn grwpiau o 3-8 ar bob coesyn. Unwaith i’r gwynt gario’r paill, mae’r gwyddau bach benywaidd yn raddol yn troi’n frown ac yn brennaidd ac yn edrych fel moch coed bach, sy'n cadw'r hadau. Yn y gaeaf, mae'r conau yn agor ac yn rhyddhau'r hadau sy'n cael eu gwasgaru gan wynt a dŵr.
Ble a phryd i weld tafodau gwern
Dewch o hyd i’r planhigyn cynnal, y wernen. Yn aml mae'n tyfu mewn tir llaith ger dyfroedd ond bydd hefyd yn tyfu mewn lleoliadau sychach.
Mae’r ardyfiant yn ffurfio ar y gwyddau bach benywaidd ar siâp wy, nid y rhai gwrywaidd, sy'n hir ac yn hongian i lawr.
Gellir gweld ardyfiant tafod gwern trwy gydol y flwyddyn ond maent yn fwy disglair eu lliw yn gynharach yn y tymor.