Llygoden bengron y dŵr
Arvicola amphibius
Mae gan y mamal carismataidd yma ffwr brown tywyll, trwyn smwt crwn, llygaid du bach a chlustiau crwn byr (bron yn gudd). Mae llygoden bengron y dŵr yn mesur tua 140 i 220mm o ben i'r corff, a'i gynffon â blew yn ychwanegu 95-140mm. Maent yn brysur yn ystod y dydd a gellir eu gweld yn aml yn eistedd ar eu traed ôl yn bwydo ar goesau planhigion gan afael ynddynt a’u pawennau blaen.
Mae llygoden bengron y dŵr yn adnabyddus i ni fel y cymeriad 'Ratty' yn y llyfr 'Wind in the Willows' gan Kenneth Grahame. Ond yn anffodus, maen nhw wedi dioddef y dirywiad mwyaf difrifol o unrhyw famal gwyllt ym Mhrydain yn ystod yr 20fed Ganrif; rhwng 1989 a 1998, gostyngodd y boblogaeth bron i 90%! (Ffynhonnell: PTES).
Beth maen nhw'n ei fwyta
Maent yn bwyta amrywiaeth eang o blanhigion ar lan afonydd, gan gynnwys glaswellt, cyrs cyffredin, hesg, gwreiddiau, rhisgl coed a ffrwythau. Weithiau, bydd trychfilod ac anifeiliaid bach di-asgwrn-cefn eraill yn cael eu bwyta.
Ble a phryd i'w gweld
Gellir gweld llygod pengrwn y dŵr trwy gydol y flwyddyn, yn byw ger afonydd, nentydd, rhewynau, ffosydd, o amgylch pyllau a llynnoedd, ac mewn corsydd, corslwyni a rhostir gwlyb.
Chwiliwch am arwyddion mewn caeau sy'n datgelu presenoldeb llygod pengrwn y dŵr. Maent yn creu tyllau mewn llethrau serth gwelltog gyda mannau o laswellt byr wedi cnoi ('lawnt') wrth y fynedfa. Maent hefyd yn gwneud baw sgleiniog siâp sigâr mewn geudai, ac yn aml yn creu pentyrrau o laswellt a choesau planhigion wedi cnoi sy’n creu toriad arbennig o 45 gradd.
Gwrandewch yn ofalus, clywir sŵn 'plop' pan mae llygod pengrwn y dŵr yn aml yn plymio i mewn i ddŵr pan fo cynnwrf.