Cardwenynen fain
Bombus sylvarum
Mae sŵn sïo â thraw uchel nodweddiadol y rhywogaeth gwenyn yma yn arf diagnostig buddiol ar gyfer ei adnabod. Mae'r rhywogaeth brin yma i’w weld mewn dim ond llond llaw o safleoedd yn ne Cymru a de Lloegr ac maent dan fygythiad yn bennaf oherwydd colli glaswelltiroedd llawn blodau.
Mae'r gwenyn hyn yn felyn golau gyda chynffon coch/oren gwelw, rhesen du rhwng yr adenydd, a rhesi du ar yr abdomen. Rhain yw un o'r gwenyn lleiaf ym Mhrydain; mae’r frenhines tua 17mm o hyd, tra bod y gweithwyr a'r gwrywod yn llawer llai (tua 12mm).
Mae nythod fel arfer yn cael eu creu mewn twmpath o lystyfiant glaswelltir trwchus yn agos i’r ddaear. Mae’r gardwenynen fain yn ymddangos yn hwyr yn y tymor; nid yw’r frenhines yn ymddangos tan fis Mai, a gwelir y gweithwyr o ganol Mehefin i Fedi. Daw gwrywod a merched i’r golwg o ddiwedd Gorffennaf i Fedi. Yna mae cymar newydd y frenhines yn gaeafgysgu ac yna'n ymddangos y mis Mai canlynol i gychwyn y cylch unwaith yn rhagor.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Mae gan y gardwenynen fain dafod hir a ganddo gysylltiad cryf â blodau tiwbaidd hir. Maent yn bwyta neithdar a phaill sy'n cael eu tynnu o blanhigion megis pysen-y-ceirw, meillionen goch, briwlys y gwrych, marddanhadlen ddu a’r gorudd.
Ble a phryd i'w gweld
Gellir gweld y gardwenynen fain rhwng mis Mai a Medi.
Mae'r gwenyn hyn yn ffafrio glaswelltiroedd cyfoethog, corsydd pori, twyni arfordirol a safleoedd tir llwyd.
Gwrandewch am eu sïo â thraw uchel nodweddiadol.