Cornchwiglen

Vanellus vanellus

Mae'r gornchwiglen yn aderyn cyfarwydd ag adnabyddus a welir ar diroedd fferm a gwlyptiroedd. Gellir ei adnabod trwy ei grib hir, uchel a’i blu du a gwyn, sy’n aml yn edrych yn wyrdd a phorffor lliwgar mewn golau haul disglair. Mae posib ei adnabod yn hawdd wrth hedfan gan blaen ei adain lydan a chrwn.

Yn gynnar yn y tymor bridio, mae adar gwrywaidd yn perfformio campau hedfan dramatig, yn hedfan dros eu tiriogaeth yn araf ac yna'n plymio’i lawr drwy'r awyr, gyda’r adenydd yn creu sŵn murmur. Mae eu galwad nodweddiadol uchel ('pee-wit') yn cyhoeddi eu presenoldeb i bartneriaid posibl.

O ddechrau’r gwanwyn, gellir gweld adar benywaidd ar eu nythod sy'n aml o fewn pantiau llaith bas, syml yn y mwd neu'r tywod. Ar ddiwedd y gwanwyn, efallai y byddwch yn ffodus i weld eu cywion pert, blewog yn gadael eu nythod i ddod o hyd i blanhigion sy'n fwy addas i ddarganfod prae.

Mae cornchwiglod yn amddiffynnol iawn o'u hwyau neu gywion, a byddant naill ai'n ymosod ar ysglyfaethwyr neu'n perfformio sioe i dynnu sylw ac arwain yr ymosodwr i ffwrdd o'r nyth.

Mae gan gornchwiglod amryw o enwau, gan gynnwys Hen Het a Chwtiad Gwyrdd.

 

Beth maen nhw’n ei fwyta

Mae cornchwiglod yn bwydo’n bennaf yn y nos ar anifeiliaid di-asgwrn-cefn y pridd fel mwydod, pryfed cop, pryfed lludw a phryfed.

 

Ble a phryd i'w gweld

  • Gellir gweld cornchwiglod trwy gydol y flwyddyn yn y Deyrnas Unedig.

  • Yn y tymor bridio, maent yn ffafrio ydau heuedig y gwanwyn, cnydau gwraidd, tir porfa heb ei wella parhaol, dolydd a chaeau braenar. Gellir eu canfod hefyd ar wlyptiroedd gyda llystyfiant byr. Yn y gaeaf maent yn heidio ar dir porfa a chaeau wedi'u hau.

  • Yn ystod y tymor bridio, gwrandewch am yr alwad alarus, wichiog arbennig, 'peewit'.