Ffugalaw bach
Hydrocharis morsus-ranae
Planhigyn arnofiol bychan yw’r ffugalaw bach a welir mewn pyllau, llynnoedd, a dyfrffyrdd sy’n llifo’n araf neu rhai llonydd. Mae'n edrych fel lili’r-dŵr bach gyda dail gwyrdd siâp aren, crwn, a blodyn gwyn tri phetal gyda chanol melyn. Mae'r petalau yn aml yn edrych yn denau ac yn grimpiog ac yn gallu ymddangos yn dryloyw mewn haul disglair. Mae blodau benywaidd yn tyfu ar ben eu hunain, ond mae'r blodau gwrywaidd yn tyfu fesul dau neu dri.
Yn y gaeaf, mae'r planhigyn hwn ynghwsg ac yn gaeafu fel blaguryn wedi'i gladdu yn y mwd ar waelod pwll neu lyn. Mae'r blagur yn codi eto yn y gwanwyn i ffurfio planhigion newydd.
Mae’r ffugalaw bach yn rhoi lloches fuddiol i benbyliaid, pysgod bach a larfa pryfed fel y gwas y neidr. Credir ei fod yn dirywio oherwydd ymgyfoethogi dyfroedd gan faetholion (fel ffosffadau a nitradau) o amaethyddiaeth a dŵr ffo domestig.
Ble a phryd i'w gweld
Mae'r planhigyn dyfrol hwn yn blodeuo ym mis Gorffennaf ac Awst, ac fe'u gwelir yn arnofio mewn dyfrffyrdd sy'n llifo’n araf fel camlesi, pyllau, ffosydd a rhewynau.
Credir bod Gwastadeddau Gwent a rhannau isaf o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn gadarnleoedd lleol ar gyfer y rhywogaeth hon, ond credir ei fod yn dirywio mewn ardaloedd eraill.