Gwas neidr flewog
Brachytron pratense
Mae’r gwas neidr flewog yn bennaf yn ddu ei liw, fodd bynnag, os caiff ei weld o bell, gellir gweld bod gan y gwryw rannau glas fesul pâr o smotiau siâp deigryn ar hyd yr abdomen (rhan isaf y corff), llygaid glas a rhannau gwyrdd llachar ar y thoracs (rhan uchaf y corff). Mae gan y fenyw smotiau melyn gwelw fesul pâr a llygaid brown. Yn wahanol i weision neidr eraill, ac yn nodweddiadol iddynt, mae gan y gwas neidr flewog blew byr ar hyd y thoracs.
Ceir tri cham yng nghylch bywyd gwas y neidr: wy, larfa/nymff, ac oedolyn. Gosodir yr wyau i mewn i ddeunyddiau planhigion ac yna’n deor ar ôl 3-4 wythnos. Mae'n anodd iawn darganfod larfa dyfrol a chymerir dwy flynedd i ddatblygu i oedolion.
Mae gweision neidr yn hudolus i wylio, ac mae ganddynt sgiliau hedfan rhyfeddol. Yn nodweddiadol mae’r gwrywod yn hedfan mewn arddull igam-ogam isel i mewn ac allan o blanhigion; mae'r benywod yn fwy dirgel ac yn aml yn gorffwys ar ddail yn yr haul.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Mae gweision neidr yn cymryd mantais wrth fwydo, yn cymryd unrhyw brae addas y dôn ar draws. Maent yn dal pryfed yn yr awyr wrth hedfan.
Ble a phryd i'w gweld
Fe’u gwelir ger dŵr heb ei lygru gyda llystyfiant da, er bod safleoedd unionlin fel ffosydd, sianeli, rhewynau a chamlesi yn cael eu ffafrio yn aml.
Dechreuwch chwilio yn gynnar yn y tymor. Mae'r rhywogaeth hon yn dod i'r amlwg cyn gweision neidr eraill ym mis Mai (weithiau'n gynharach), ond fe’u gwelir yn hedfan hyd at fis Gorffennaf. Mae gwrywod yn diriogaethol ac yn patrolio ardaloedd bach dros ddŵr agored.
Chwiliwch am weision neidr pan fydd y tywydd yn braf! Mae’r gwrywod a’r benywod ond yn weithgar yn ystod tywydd braf a chynnes, ac yn gorffwys pan yn gymylog.