Broga
Rana temporaria
Mae brogaod yn amffibiaid cyffredin a hawdd eu hadnabod. Mae ganddynt groen llyfn, llaith a choesau streipïog hir. Fel arfer mae'r broga cyffredin yn wyrdd olewydd, er gall eu lliw amrywio (o frown, melyn, hufen neu ddu, i binc, coch neu wyrdd llachar). Mae ganddynt ran dywyll ('mwgwd') o gwmpas y llygad a philen y glust, ac yn aml gyda blotiau du eraill yma ac acw dros eu corff a'u coesau. Mae ganddynt lygaid euraidd mawr gyda channwyll llygad hirgron llorweddol.
Mae brogaod yn neidio ac yn sboncian yn hytrach na cherdded neu gropian, ac yn fwyaf bywiog yn y nos. Maent yn gaeafgysgu yn ystod y gaeaf mewn pwll o fwd neu o dan bentwr o ddail wedi pydru, boncyffion neu gerrig.
Y tu hwnt i'r tymor bridio, mae brogaod yn bennaf yn greaduriaid tir a gellir eu canfod mewn dolydd, gerddi a choetiroedd. Mae bridio yn digwydd mewn pyllau, llynnoedd, camlesi, a hyd yn oed glaswelltir gwlyb neu byllau dwr glaw! Mae silio fel arfer yn digwydd yn Ionawr yn ardaloedd mwyn y Deyrnas Unedig, ond nid tan fis Mawrth i fis Ebrill yn y Gogledd neu ardaloedd ucheldirol. Yn aml, gellir gweld parau’n paru a chlwstwr o grifft y broga mewn mannau dyfrol yn ystod y cyfnod hwn. O'r grifft mae'r penbyliaid yn deor o fewn dwy i dair wythnos.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Mae brogaod aeddfed yn dal ac yn bwyta malwod, gwlithod, mwydod, pryfed ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill gan ddefnyddio eu tafod gludiog hir. Mae penbyliaid ifanc yn bwydo ar algâu, ond maent yn datblygu i fwyta cig wrth iddynt aeddfedu.
Ble a phryd i'w gweld
Gellir gweld brogaod mewn pyllau, llynnoedd, camlesi, dolydd, coetiroedd a gerddi gan amlaf rhwng mis Chwefror a Hydref.
Chwiliwch am grifft brogaod ychydig yn is nag wyneb y dŵr. Mae brogaod yn dodwy swp o wyau yn debyg i jeli, ond cynhyrchir grifft llyffant mewn llinynnau hir.