Neidr y gwair

Natrix helvetica

Dyma’r rhywogaeth neidr hiraf ym Mhrydain, ac fe’i gwelir yn aml ger dŵr. Melynwyrdd yw lliw neidr y gwair gan amlaf, gyda choler gwddf melyn a du nodedig a channwyll llygad crwn. Mae gan yr ymlusgiaid hyn foliau gwelw gyda rhannau tywyll neu farrau ar hyd y corff.

Neidr y gwair yw'r unig neidr sy'n dodwy wyau ym Mhrydain gyda'r fenyw yn dodwy 10 i 40 o wyau mewn planhigion sy'n pydru, megis tomenni compost sy'n gweithredu fel deorydd. Mae'r wyau'n deor i mewn i fersiynau bychan o'r oedolion ar ddiwedd yr haf hyd at yr hydref.

Nid yw neidr y gwair yn beryg i bobl, ond os dan fygythiad, maent yn esgus marw, neu’n codi’n uchel mewn ystum ymosod ffug. Maent hefyd yn gallu gollwng sylwedd drewllyd o chwarennau rhefrol. Fel pob neidr arall, gwaed oer sydd gan neidr y gwair, ac ond yn egnïol wedi iddynt dorheulo yn yr haul ar ddiwrnodau cynnes.

 

Beth maen nhw'n ei fwyta

Mae neidr y gwair yn bwydo ar amrywiaeth o rywogaethau, gan gynnwys amffibiaid, pysgod ac adar sy'n nythu.

 

Ble a phryd i'w gweld

  • Mae neidr y gwair i’w weld o fis Ebrill i fis Hydref (maent yn gaeafgysgu o Hydref i Ebrill).

  • Mae cyswllt cryf ganddynt â gwlyptiroedd ond gellir eu canfod hefyd ar laswelltir, rhostir a gerddi (yn enwedig y rhai â phwll).

  • Edrychwch o fewn tomenni compost gan eu bod yn hoffi dodwy eu hwyau yn y sylwedd organig cynnes sy’n pydru.

  • Chwiliwch amdanynt ar ddiwrnodau brag a chynnes. Maent yn cuddio ar ddiwrnodau gwlyb ac oer.