Mantell goch
Vanessa atalanta
Glöyn byw mawr (lled adenydd 67-72mm), yn gyfarwydd ac yn hawdd ei adnabod gyda lliwiau trawiadol a dramatig. Mae'r fantell goch yn ddu melfedaidd gyda rhesi coch llydan ar yr adain ôl a blaen, a smotiau gwyn yn agos i flaen yr adain blaen. Mae'r ochr isaf yn frith glas, brown a du, gyda rhan welw ar ymyl uchaf yr adain ôl.
Mae'r gloÿnnod byw aeddfed yn bennaf yn ymfudwyr o Ogledd Affrica a de Ewrop, yn hedfan draw bob gwanwyn a haf; er gall rhai oedolion aeafu (gaeafgysgu) yn ne Lloegr hefyd. Yn aml, gwelir y gloÿnnod byw coch, gwyn a du yma yn bwydo ar flodau ar ddiwrnodau cynnes ymhell i’r gaeaf.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Mae'r lindys yn bwydo ar ddanadl cyffredin a phaladr y wal; tra bod yr oedolion yn ymweld â llawer o flodau gardd yn arbennig buddleia a briweg. Yn ystod misoedd yr Hydref, mae'r oedolion yn bwydo ar flodau eiddew a ffrwythau wedi pydru.
Ble a phryd i'w gweld
Yr adeg gorau o'r flwyddyn i weld y fantell goch oedolyn yw rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd, ond gellir gweld oedolion yn achlysurol trwy gydol y gaeaf.
Mae'r gloÿnnod byw hyn yn gyffredin, ac mae modd gweld oedolion mewn bron unrhyw gynefin, gan gynnwys gerddi, ar lan y môr, coedwigoedd, perllannau a pharciau.
Gall gloÿnnod byw gael eu dychryn gan symudiadau sydyn, a hyd yn oed cysgodion. Agosewch at y glöyn byw yn dawel ac yn araf, byddwch yn ofalus iawn o ble rydych chi'n sefyll o ran lleoliad yr haul; ac os ydych chi'n eu dychryn, byddwch yn amyneddgar ac arhoswch i’r glöyn byw i ail-eistedd.
Nid oes angen unrhyw offer arbenigol, er gall ysbienddrych fod yn ddefnyddiol er mwyn gweld eu patrymau rhyfeddol yn agos.