Crawen las
Terana caerulea
Adnabyddir y rhywogaeth hynod liwgar yma fel cramen neu ffyngau atblygedig (yn wastad yn erbyn yr wyneb). Gellir ei ddarganfod yn tyfu'n saproffytig ar is-haenau coediog, yn enwedig Onnen (Fraxinus excelsior). Mae saproffytau yn cael maeth gan organebau marw neu sy'n pydru. Mae'n arbennig o drawiadol a hardd pan yn ifanc ac yn newydd gyda'i liw glas cobalt llachar.
Mae'r cnawd yn gwyraidd ac yn feddal pan fydd yn wlyb, yn galed ac yn gras pan yn sych. Mae'r corff hadol ynghlwm yn dynn wrth yr is-haen ond weithiau'n llac ar hyd ei ymylon. Mae'n ffurfio darnau mawr afreolaidd gydag arwynebau llyfn neu anwastad/dafadennog sy'n fân felfedaidd, ac sy'n denau iawn yn gyffredinol <1mm o drwch. Mae'r ymylon allanol yn welw, yn aml yn wyn gyda rhimyn, tra bod enghreifftiau hŷn yn tywyllu ac yn y pen draw, bron yn ddu.
Fe'i hystyrir yn anghyffredin yn y DU, ond mae i'w gael mewn llawer o diroedd coed yn ne Cymru.
Ble a phryd i'w gweld
Gellir ei weld trwy gydol y flwyddyn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ochr isaf canghennau a boncyffion yn ofalus. Mae'r lliw glas amlwg yn ei wneud yn hawdd ei weld, ond yn aml mae'n tyfu ar hyd ochr isaf canghennau a boncyffion ac felly’n hawdd ei fethu.
Map yn dangos dosbarthiad 10km crawen las yng Nghymru.
Statws cyfreithiol
Dim
A wyddost ti?
Mae'r patrwm sborau (y patrwm lliw a gynhyrchir pan fydd sborau yn cael eu gollwng ar bapur gwyn) yn wyn-las. Mae'r ffwng hwn yn hollol ddi-flas ac nid oes ganddo unrhyw werth coginio.
! Mae rhai ffyngau yn wenwynig iawn a gallai llawer o rai eraill eich gwneud chi'n sâl dros ben os gaiff ei lyncu. Peidiwch â bwyta unrhyw ffyngau oni bai eich bod yn hyderus wrth adnabod y rhywogaeth neu wedi ymgynghori ag arbenigwr. Os ydych yn ansicr, cadwch at yr archfarchnad!