Criced hirgorn tywyll

Griseoaptera Pholidoptera

Gellir gweld y criced hirgorn tywyll mewn llwyni, tiroedd coed, llwyni mieri, a gerddi trwy gydol yr haf. Maen nhw’n gyffredin ac mae'r rhincian swnllyd yn sŵn cyfarwydd ddiwedd yr haf. Gellir eu gweld yn aml mewn niferoedd eithaf mawr.

Mae’n mesur 11-21mm o hyd gyda lliw tywyll i frown-goch, gyda rhan welw ar hyd pen y frest a bol gwyrdd-melyn. Mae'r coesau ôl yn hir iawn, yr adenydd blaen yn fach iawn (bron heb adenydd), ac mae’r teimlyddion yn hir iawn. Mae gan y fenyw wyddodydd yn troi ar i fyny, sef organ tiwbaidd a ddefnyddir i ddodwy wyau ddiwedd yr haf.

Mae wyau yn cael eu dodwy i mewn i bren sy'n pydru neu hollt mewn rhisgl, y nymffau'n ymddangos ddiwedd Ebrill, a gellir gweld oedolion ddiwedd mis Mehefin / dechrau Gorffennaf ac yn goroesi tan fis Tachwedd / Rhagfyr.

Gellir clywed yr alwad ‘sip’ byr, uchel trwy gydol y dydd ac i'r nos. Fe'i clywir o lystyfiant isel ar gyfnodau afreolaidd.

Beth maen nhw'n ei fwyta

Maent yn bwydo ar amrywiaeth eang o lystyfiant a phryfed bach.

 

Ble a phryd i'w gweld

  • Gellir gweld y criciaid rhwng Mai a Thachwedd.

  • Maen nhw’n aml yn torheulo yn yr haul ar lystyfiant, ond yn cuddio os ydyn nhw’n cael eu haflonyddu.. Ymgripiwch yn araf i gael golygfa dda.

  • Adnabod nhw trwy eu rhincian (galwad). 

Map yn dangos dosbarthiad 10km criced hirgorn tywyll yng Nghymru.

 

Statws cyfreithiol

Dim

Rhywogaethau tebyg

Criced hirgorn llwyd (Platycleis albopunctata)

Fel y mae ei enw'n awgrymu, mae'r criced horgorn llwyd yn llwyd-frown, ac mae ganddo adenydd hyd llawn a chêl canolog ar y tu ôl i'r pronotwm. Mae'n griced o faint canolig sy'n mesur hyd at 28mm o hyd. Mae ei alwad yn dyner ac yn cael ei ailadrodd yn gyflym. Mae'r rhywogaeth yn hollysol, yn bwyta planhigion yn ogystal â phryfed bach. Mae'n fwy o rywogaeth arfordirol a geir yn bennaf yn ne Lloegr a De Cymru.

 

Criced hirgorn y gors (Metrioptera brachyptera)

Mae'r criced hwn yn mesur tua 11-21mm, ac mae ganddo adenydd hyd canolig sydd ddim yn cyrraedd blaen yr abdomen. Mae ganddo gêl canolog ar ochr gefn y pronotwm. Lliw gwyrdd neu frown, ond yn wyrdd llachar ar ei ochr isaf. Hefyd mae ganddo resen hufenlliw ar ymyl ôl y pronotom. Mwmian tyner ond main yw’r gân (bron fel oriawr sy'n ticio'n gyflym). Fel y mae ei enw'n awgrymu, mae'r criced hwn yn ffafrio cynefinoedd mwy llaith fel rhostir neu ffridd laith.

 

Criced hirgorn Roesel (Metrioptera roeselii)

Mae gan y criced yma adenydd hyd canolig sydd ddim yn cyrraedd blaen yr abdomen. Mae ganddo ymyl gwelw eang o amgylch haenau ochr y pronotwm, a thri smotyn melyn ar ochrau'r frest. Mae'n griced maint canolig sy'n mesur tua 13-26mm, a ganddo gân â thraw uchel arbennig sy'n para am funud neu fwy, ac yn swnio'n debyg i glecian ceblau pŵer trydanol. Cofnodwyd y rhywogaeth hon yn ddiweddar yn rhan de-ddwyreiniol Prydain yn unig ond mae’n ehangu yn gyflym ac mae bellach i'w chael yn Ne Cymru.

 

A wyddost ti?

Tra bod sŵn ceiliog rhedyn neu griced yn cael ei alw'n gân, mewn gwirionedd mae'r sŵn yn cael ei gynhyrchu gan rhincynnau lle mae dwy ran o'r pryf yn rhwbio gyda'i gilydd i gynhyrchu sain unigryw. Mae criciaid hirgorn tywyll gwrywaidd yn gwneud dau fath o rincian - galwad paru i ddenu benywod a galwad arall i rybuddio gwrywod eraill sy'n cystadlu â'i gilydd. Gallwch ddefnyddio synhwyrydd ystlumod i glywed caneuon ceiliogod rhedyn a chriciaid yn fwy amlwg.

 

Dolenni eraill