Pryf tân

Lampyris noctiluca

Er gwaethaf eu henw, chwilen yw'r pryf tân mewn gwirionedd, nid mwydyn! Mae'r gwrywod yn edrych fel chwilod gydag adenydd a chas adain galed o'r enw elytra. Maen nhw’n frown golau, mae gyda llygaid ffotosensitif mawr, ac yn mesur c.15mm o hyd. Mae'r benywod yn edrych yn debyg iawn i'r larfa (a elwir yn fenywod larviform), nid oes ganddyn nhw adenydd, ac yn mesur c. 20mm o hyd. Mae gan y larfa farciau trionglog melyn-oren gwelw amlwg ar ochr pob segment sydd ddim i’w gweld ar y benywod. Mae gan y fenyw gefn hollol ddu gyda llinell denau welw i lawr ei chanol, tra bod y larfa'n tueddu i fod yn fwy llwyd-frown.

Mae'r fenyw yn eistedd yn uchel i fyny ar goesyn glaswellt yn y nos gan ryddhau golau melyn-wyrdd cyson (ddim yn fflachio) o ddiwedd ei abdomen. Gall y gwryw, y larfa a'r wyau hefyd ryddhau golau, er yn llawer gwannach na'r fenyw. Defnyddir y golau i ddenu gwryw sy'n hedfan.

Mae'r larfa i'w gweld amlaf yn byw o dan greigiau ar diroedd glaswellt sialc neu galchfaen ac yn bwydo ar wlithod a malwod. Maen nhw’n defnyddio genau siâp cryman i chwistrellu gwenwyn sy'n parlysu ac yn hylifo eu prae. Mae gerddi, llwyni, llethrau rheilffyrdd, llwybrau coetir, rhostir a chlogwyni i gyd yn gynefinoedd posib ar gyfer pryfed tân. Nid yw'r oedolion yn bwyta unrhyw beth, a dim ond yn byw am 14-21 diwrnod, nes bod y fenyw wedi paru a dodwy wyau. Mae'r larfa'n byw ychydig yn hirach ac fe'u gwelir rhwng Ebrill a Hydref.

Ble a phryd i'w gweld

  • Dim ond am gyfnod byr y gwelir yr oedolion ym misoedd Mehefin a Gorffennaf, a'r larfa rhwng Ebrill a Hydref.

  • Chwiliwch amdanyn nhw mewn ardaloedd glaswellt agored.

  • Symudwch i ffwrdd o olau artiffisial fel lampau stryd, goleuadau ceir, a thai i weld golau melyn-wyrdd y pryf tân yn fwy amlwg.

Map yn dangos dosbarthiad 10km pryf tân yng Nghymru.

Statws cyfreithiol

Dim

Rhywogaethau tebyg

Pryf tân bach (Phosphaenus hemipterus)

Mae'r rhywogaeth yma’n brin ac ar hyn o bryd wedi'i chyfyngu i dde Lloegr. Nid yw’r ddau ryw yn gallu hedfan. Mae benywod yn mesur tua 10mm, a'r gwrywod tua 7mm. Mae'r golau yn wan ac anaml y bydd yn goleuo oni bai ei fod yn cael ei aflonyddu, felly mae'n debygol bod y fenyw yn denu gwrywod gan ddefnyddio fferomonau. Mae'r larfa'n bwyta mwydod yn bennaf, ond ni all yr oedolion fwydo oherwydd mai gweddillion ceg yn unig sydd ganddyn nhw.

 

A wyddost ti?

Mae golau pryf tân yn fywolau, h.y. canlyniad i adwaith cemegol: mae moleciwl o'r enw lwsifferin wedi'i gyfuno ag ocsigen i greu ocsilwsifferin, cyfansoddyn sy'n rhyddhau golau.

 

Dolenni eraill