Tylluan frech

Strix aluco

Y dylluan frech yw ein tylluan gyffredin fwyaf, gyda chorff a phen crwn, a phig bachog. Maen nhw'n frown lliw castan, ac mae ganddyn nhw lygaid mawr tywyll sy'n wynebu ymlaen, a phlu tywyll yn creu cylch o amgylch ei wyneb. Mae'r patrwm brith yn helpu i guddliwio'r aderyn pan mae’n eistedd yn uchel mewn coedwig. Maen nhw’n sefyll hyd at 39cm o daldra a maint adenydd hyd at 1m. Mae gwrywod a benywod yn debyg iawn o ran ymddangosiad, ond y benywod yw'r mwyaf o'r ddau ryw.

Mae tylluanod brych yn byw yn bennaf mewn coetiroedd llydanddail collddail, ond gellir eu canfod hefyd mewn ffermdiroedd, llwyni a choedwigaeth. Maen nhw hefyd yn byw mewn ardaloedd mwy trefol gan gynnwys parcdir os oes digon o goed aeddfed. Maent yn nythu mewn tyllau mewn coed, nythod gwiwerod neu hen nythod a wneir gan adar o rywogaethau eraill neu hefyd yn defnyddio blychau nythu pwrpasol.

Beth maen nhw'n ei fwyta

Mae tylluanod brych yn bwydo ar famaliaid bach yn bennaf (fel llygod a llygod pengrwn), adar bach, amffibiaid a phryfed mawr a phryfed genwair.

 

Ble a phryd i'w gweld

  • Gellir eu gweld trwy gydol y flwyddyn.

  • Mae tylluanod brych yn adar y nos ... bydd rhaid aros i fyny'n hwyr i'w gweld.

  • Peidiwch ag anghofio gwrando hefyd - mae tylluanod brych yn hwtian.

  • Edrychwch yn ofalus gyda’r nos - gallant edrych yn eithaf gwelw yng ngoleuadau'r car. 

Map yn dangos dosbarthiad 10km tylluan frech yng Nghymru

 

Statws cyfreithiol

Mae tylluanod brych yn cael eu gwarchod gan y gyfraith o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac wedi cael statws cadwraeth Ambr yn y DU.

 

Arwyddion Maes

Fel gyda llawer o rywogaethau, nid yw bob amser yn hawdd gweld tylluanod. Fodd bynnag, maen nhw’n aml yn gadael arwyddion sy'n datgelu eu bod wedi bod yn bresennol.

 

Pelenni

Mae pelen sy'n cynnwys darnau o brae heb eu treulio o (e.e. esgyrn, dannedd, ffwr) yn cael ei gyfogi (h.y. eu pesychu trwy'r pig) a'i roi heibio; fe’u gwelir yn aml y tu mewn neu o dan safle clwydo.

Mae pelenni tylluanod brych yn mesur oddeutu 20-50mm o hyd ac fel arfer yn fwy llwyd eu lliw ac yn amlwg yn fwy blewog na rhai tylluan wen. Mae eu siâp fel arfer yn lympiau ac yn afreolaidd ac yn aml yn llai caled na rhai tylluanod eraill a gallant dorri’n ddarnau wrth daro’r ddaear.

Baw

Mae baw tylluanod brych fel arfer yn wyn. Edrychwch o dan safleoedd clwydo posib.

Plu

Mae plu tylluan wen yn sinsir/frown gyda bandiau tywyll. Fodd bynnag, gallant edrych fel plu adar eraill felly edrychwch ar hyd yr ymylon danheddog (fel crib) sy'n caniatáu iddyn nhw hedfan yn dawel (fel tylluanod eraill).

Galwadau

Mae hwtian y dylluan frech wrywaidd yn un o'r rhai mwyaf cyfarwydd o unrhyw alwadau adar. Mae’n ‘hooo’ hir ac yna ‘hu’ distawach, ac yna ailadrodd ‘hoohoohoohoooo’. Galwad y fenyw yw ‘cîwic’. Ceir deuawd gan y pâr yn aml gyda’r gwryw a’r fenyw yn cymryd eu tro i alw ac yn gwneud yr alwad glasurol o ‘twit twoo’. Mae hwtian yn digwydd amlaf yn y nos, er bod posib clywed ambell alw yng ngolau dydd.

 

A wyddost ti?

Nid yw tylluanod brych i’w cael yn Iwerddon, ac mae'r enw torfol ar grŵp o dylluanod yw hwtiad!

Dolenni eraill