Coch y berllan
Pyrrhula pyrrhula
Mae oedolyn gwrywaidd coch y berllan yn drawiadol ac yn ddigamsyniol gyda'i fron a'i ruddiau pinc-goch llachar. Mewn cymhariaeth, mae'r fenyw yn fwy tawel gyda brest binc/llwydfelyn. Mae gan y ddau ryw gynffonau a chapiau du (yn ymestyn o amgylch y big), adenydd du gyda bar llwyd-gwyn, cefnau llwyd, a phenolau sgwâr gwyn. Adar byrdew ydyn nhw, gyda chlampyn o gorff , gyddfau trwchus a phig conigol du byr. Mae rhai ifanc yn debyg i'r benywod ond mae ganddyn nhw ben ac wyneb brown.
Chwiban fer isel, tawel yw eu galwad, fel ‘hiw’ tyner. Disgrifir y sain yn aml fel galarus.
Mae bridio yn cychwyn ym mis Ebrill i Mai, ac maen nhw’n dodwy 4-5 o wyau glas golau mewn nyth wedi'i wneud o frigau mân, mwsogl a chen, ac wedi'u leinio â gwreiddiau a blew mân. Mae'r wyau'n cael eu magu am tua 12-14 diwrnod cyn deor, ac mae'r ddau riant yn bwydo'r ifanc ar ôl iddyn nhw ddeor.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Weithiau fe'u hystyrir yn niwsans gan arddwyr a thyfwyr ffrwythau oherwydd eu bod yn bwydo a difrodi blagur coed a llwyni yn ystod y gwanwyn. Gallant fwyta hyd at 30 blagur y funud! Maent hefyd yn bwyta hadau, aeron a phryfed (ar gyfer yr ifanc).
Ble a phryd i'w gweld
Gwelir cochion y berllan trwy gydol y flwyddyn.
Mae cochion y berllan i'w gweld yn gyffredin iawn mewn gerddi gyda bwydwyr yn llawn hadau.
Maent hefyd yn gysylltiedig â llwyni, prysgwydd, perllannau a thiroedd coed, ac fe'u gwelir yn aml mewn parau neu heidiau bach. Mae ganddyn nhw sachau bwyd arbennig yng ngwaelod y geg sy'n caniatáu i'r rhieni ddod â bwyd yn ôl i'w cywion (yn aml o bellter).
Map yn dangos dosbarthiad 10km coch y berllan yng Nghymru.
Statws cyfreithiol
Wedi'i restru ar hyn o bryd fel rhywogaeth Ambr o Bryder Cadwraethol. Maen nhw hefyd yn cael eu gwarchod gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Rhywogaethau tebyg
Ji-binc (Fringilla coelebs)
Aderyn cyffredin a niferus iawn ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae gan y gwryw goron lwydlas a bron pinc, cefn brown a bariau adain ddwbl gwyn. Mae'r fenyw yn llwydfelyn/brown gyda bariau adain wen. Yn yr ardd, maen nhw'n tueddu i fwydo mwy ar lawr na llinosiaid eraill.
A wyddost ti?
Yn y gorffennol, roedd coch y berllan yn aderyn cawell. Mae'n debyg eu bod yn hawdd iawn eu dofi a gellir eu dysgu i ddynwared synau a chwibanau.