Rhedyn y Dŵr

Azolla filiculoides

Rhedynen ddyfrol sy’n arnofio’n rhydd yw'r planhigyn yma mewn gwirionedd sy'n debyg iawn i llinad y dŵr mewn arferiad a chynefin. Mae ganddo resi o ddail bach sy’n gorgyffwrdd ar hyd coesau canghennog byr, ac mae'r trefniant bob-yn-ail y dail yn rhoi ymddangosiad wedi plethu i'r planhigyn. Mae'r dail yn ddwylabedog, yn flewog iawn, ac yn bennaf yn wyrdd o liw ond gallant fod â naws pinc, oren neu goch ar yr ymylon. Mae pob planhigyn unigol yn c. 1-2cm ar draws.

Mae'r ffrondau'n troi'n goch ddiwedd yr haf neu pan mae’r rhedyn o dan straen. Gall ffurfio matiau trwchus (cofnodwyd hyd at 30cm o drwch!), ac yn disodli rhywogaethau brodorol yn hawdd. Mae'r matiau trwchus hefyd yn arbed golau ac yn diocsigenu’r dŵr gan greu amgylchedd anaerobig ac atal ffotosynthesis planhigion dyfrol. Mae'n lledaenu'n llystyfol yn bennaf a dim ond rhan fach iawn o'r planhigyn y mae'n ei gymryd i ffurfio cytref newydd. Gall hefyd gynhyrchu sborau.

Mae rhedyn y dŵr i'w cael mewn ffosydd a phyllau, a dŵr arall sy'n llifo’n araf. Mae'n rhywogaeth ymledol, anfrodorol ac fe'i cyflwynwyd o'r America i addurno pyllau ac acwaria. Mae wedi lledaenu'n gyflym ledled Cymru a Lloegr yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf, cafodd ei wahardd rhag ei werthu ym mis Ebrill 2014.

 

Ble a phryd i'w gweld

  • Mewn ffosydd a phyllau, a dŵr arall sy'n llifo’n araf.

  • Cadwch lygad allan yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf. Mae'n arbennig o hawdd ei weld ddiwedd yr haf a dechrau'r hydref wrth i'r ffrondau droi’n goch.

Map yn dangos dosbarthiad 10km rhedyn y dŵr yng Nghymru.

Statws cyfreithiol

Rhestrir y rhywogaeth yn Adran 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, felly mae'n drosedd plannu neu achosi tyfu'r planhigion hyn yn y gwyllt.

 

Rhywogaethau tebyg

Llinadau

Mae'r rhain hefyd yn blanhigion arnofiol bach sy'n gallu ffurfio carpedi gwyrdd ar draws wyneb dŵr croyw.

Llinad y dŵr (Lemna minor)

Mae gan y planhigion bach hyn ffrond sengl sy'n mesur 1-3mm gyda 3-5 gwythïen. Mae'r ffrond yn wastad ar y ddwy ochr, gydag un gwreiddyn hir iawn yn hongian i lawr i'r dŵr.

Llinad mawr (Spirodela (Lemna) polyrhiza)

Mae'r ffrondau sengl yn mesur 3-10mm gyda 5-15 gwythïen, ac mae ganddyn nhw5-15  gwreiddyn yn hongian i lawr i'r dŵr.

Llinad di-wraidd (Wolffia arrhiza)

Dyma'r planhigyn blodeuol lleiaf yn y byd gyda ffrondau'n mesur dim ond 0.5-1.5mm. Mae'r planhigion wedi chwyddo ar arwynebau uchaf ac isaf ac maen nhw fel grawn bach siâp wy (gellir eu rholio rhwng eich bysedd).

 

Llinad crythog (Lemna gibba)

Yn mesur 3-5mm o hyd, maen nhw'n wyrdd ac yn amgrwm gyda 4-5 gwythïen. Mae eu hochr isaf wedi chwyddo gydag 1 gwreiddyn. Gellir gweld gwagleoedd aer ar yr ochr uchaf wrth edrych arnyn nhw gyda lens llaw a'u dal i fyny i'r golau.

A wyddost ti?

Gyda blew trwchus a gronynnau cwyr yn ei orchuddio, a chwysigod aer yn y dail, nid oes posib suddo’r planhigyn hwn. Os ydych chi'n ei wthio o dan y dŵr, bydd yn codi’n ôl i’r arwyneb eto!

Dolenni eraill