Llyffant dafadennog 

Bufo bufo

Y llyffant dafadennog yw’r amffibiad mwyaf a thrymaf Prydain. Mae’n fyrdew ei olwg ac yn tueddu i fod yn frown gyda rhai marciau tywyllach. Weithiau bydd rhai unigolion yn dangos lliw mwy coch. Mae ganddo groen trwchus sych, dafadennog  ei olwg, o'i gymharu ag ymddangosiad gwlyb sgleiniog llyfn y broga. Nid oes gan lyffantod y rhannau tywyll y tu ôl i'r llygad sydd gan froga ac mae ganddyn nhw lygaid copr-oren gyda channwyll llygad llorweddol.

Mae brogaod yn defnyddio eu coesau ôl hir pwerus i neidio a hopian, tra bo llyffantod yn cerdded neu'n cropian yn hytrach na hopian/neidio, ac mae eu coesau'n eithaf byr. Mae llyffantod yn treulio'r rhan fwyaf o'u bywyd fel oedolyn ar dir ar wahân i pan fyddant yn dodwy eu hwyau. Maen nhw’n dodwy eu hwyau mewn llinynnau hir mewn pyllau a llynnoedd mawr lle mae'r dŵr ychydig yn ddyfnach; yn aml mae'r llinynnau wedi eu lapio o amgylch llystyfiant o dan y dŵr.

Mae penbyliaid y llyffantod yn ddu ac yn aml yn ffurfio heigiau, tra bo penbyliaid y broga ond yn ddu ar ddeor, ac nid ydyn nhw’n heigio. Bydd penbyliaid brogaod a llyffantod yn datblygu eu coesau cefn yn gyntaf. Yn gyffredinol, mae llyffantod a brogaod yn cwblhau eu datblygiad yn ystod yr haf, ond gall hynny amrywio gyda rhai penbyliaid yn cymryd mwy o amser ac mae rhai hyd yn oed yn aros yn benbyliaid dros y gaeaf.

Mae gan lyffantod reddf gref i deithio yn ôl i'w pyllau bridio hynafol bob gwanwyn. Mae'n arwain at bentyrrau o lyffantod yn croesi ffyrdd lle, yn anffodus, mae llawer yn cael eu lladd.

 

Beth maen nhw'n ei fwyta

Yn bennaf maen nhw’n bwyta gwlithod, malwod, pryfed cop ac infertebratau eraill ac yn eu dal gyda’u tafodau gludiog. Mi all llyffantod mawr gymryd nadroedd defaid, nadroedd y gwair bach a llygod!

Ble a phryd i'w gweld

 

  • Mae llyffantod dafadennog yn effro a phrysur rhwng misoedd Chwefror a Hydref.

  • I’w darganfod mewn llawer o gynefinoedd gan gynnwys mannau dŵr croyw, gwlyptiroedd, tir glaswellt a fferm a choetir.

  • Chwiliwch am linynnau hir o grifft llyffantod yn gynnar yn y gwanwyn.

  • Maen nhw’n fwy egnïol mewn tywydd gwlyb.

Map yn dangos dosbarthiad 10km llyffantod dafadennog yng Nghymru

 

Statws cyfreithiol

Mae llyffantod dafadennog yn cael eu gwarchod gan y gyfraith o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

 

Rhywogaethau tebyg

Mae posib cymysgu nifer o amffibiaid gyda'r llyffant dafadennog. Sylwch nad yw rhai i'w canfod yng Nghymru ar hyn o bryd.

 

Brogaod (Rana temporaria)

Mae brogaod yn amffibiaid cyffredin, i'w canfod mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd a hawdd eu hadnabod. Mae ganddyn nhw groen llyfn, llaith a choesau hir streipiog. Mae brogaod fel arfer yn lliw olewydd, er y gall eu lliw amrywio (o frown, melyn, hufenlliw neu ddu, i binc, coch neu melynwyrdd). Mae ganddyn nhw rannau tywyll (‘mwgwd’) o amgylch y llygad a thympan y glust, ac yn aml, blotiau du afreolaidd eraill dros eu corff. Mae ganddyn nhw lygaid euraidd mawr gyda channwyll llygaid llorweddol hirgrwn.

Mae brogaod yn hopian a neidio yn hytrach na cherdded neu gropian, ac maen nhw'n fwyaf effro gyda’r nos. Maent yn gaeafgysgu yn ystod y gaeaf mewn mwd pyllau neu o dan bentyrrau o ddail sy'n pydru, boncyffion neu gerrig.

Y tu allan i'r tymor bridio, i raddau helaeth mae brogaod yn greaduriaid y tir ac mae posib i’w gweld mewn dolydd, gerddi a choetir. Mae bridio yn digwydd mewn pyllau, llynnoedd, camlesi, a hyd yn oed tir glaswellt gwlyb neu bwll glaw! Mae silio fel arfer yn digwydd ym mis Ionawr yn ardaloedd mwynach y DU, ond nid tan Fawrth i Ebrill yn ardaloedd y Gogledd neu'r ucheldir. Yn aml gellir gweld parau’n paru a chlwstwr o grifft brogaod mewn dŵr yn ystod yr amser hwn.

 

Madfallod

Mae hyd cyrff madfallod yn llawer hirach na llyffantod, ac mae ganddyn nhw gynffon hefyd. Maen nhw’n dodwy  eu hwyau bob yn un a'u lapio mewn dail planhigion o dan y dŵr. Mae gan y penbyliaid (a elwir weithiau'n larfa neu ‘eft’) ffril o dagellau y tu ôl i'r pen, ac yn datblygu coesau blaen yn gyntaf.

 

Broga'r dŵr (Pelophylax lessonae)
Yn annhebygol iawn o gael ei weld yng Ngwent

Mae'r rhywogaeth hon yn brin iawn yn y DU, a chredir yn flaenorol ei bod wedi diflannu. Fe'u hailgyflwynwyd yn ddiweddar i safle yn East Anglia. Mae brogaod dŵr yn amrywio mewn lliw, mae'r math a ddefnyddir yn y rhaglen ailgyflwyno yn frown gyda rhannau tywyll dros y cefn a streipen y cefn melynaidd golau. Mae broga'r dŵr yn debyg o ran maint i'r broga cyffredin, gan dyfu hyd at 9cm o hyd. Maent yn chwyddo pâr o sachau lleisiol gwyn (fel balŵns) wedi'u lleoli bob ochr i'r geg wrth alw. Nid oes unrhyw gofnodion o'r rhywogaeth hon yng Nghymru.

 

Rhywogaethau Anfrodorol:

Mae nifer o rywogaethau broga anfrodorol i'w cael yn y DU. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gofnodion o'r rhywogaethau canlynol yng Nghymru, ond mae'n ddefnyddiol bod yn ymwybodol ohonynt.

 

Broga'r gors (Pelophylax ridibundus)
Yn annhebygol iawn o gael ei weld yng Ngwent

Nid yw'r rhywogaeth hon yn frodorol i'r DU, ac mi gafodd ei gyflwyno. Mae'n llyffant mawr sy'n tyfu hyd at 13cm a gall fod yn wyrdd llachar ei liw. Mae ganddyn nhw gefn cefnystlysol, ac mae gan wrywod bâr o sachau lleisiol llwyd tywyll sy’n chwyddo wrth alw. Mae brogaod cors i'w cael yn bennaf yn ne-ddwyrain y wlad, ac nid oes unrhyw gofnodion o'r rhywogaeth yng Nghymru.

 

Broga bwytadwy (Pelophylax esculentus)
Yn annhebygol iawn o gael ei weld yng Ngwent

Cyflwynwyd y broga bwytadwy yn ne-ddwyrain Lloegr ac mae'n annhebygol ei weld o fewn ardal leol (nid oes unrhyw gofnodion o'r rhywogaeth yng Nghymru). Maen nhw'n tyfu i fod yn fwy na'r broga cyffredin, ac mae gan y gwrywod bâr o sachau lleisiol llwyd golau sy’n chwyddo wrth wneud eu galwadau uchel.

 

Llyffant mawr Gogledd America (Lithobates catesbeianus)
Yn annhebygol iawn o gael ei weld yng Ngwent

Mae hwn yn llyffant mawr iawn sy'n tyfu hyd at 15cm. Mae'r rhywogaeth hon yn annhebygol iawn o gael ei darganfod gan mai dim ond un boblogaeth y gwyddom amdano yn y DU, yn Essex.

 

A wyddost ti?

Gall llyffantod cyffredin secretu sylwedd gyda blas cas, gwenwynig o'r enw bufagin sy'n atal y mwyafrif o ysglyfaethwyr, er bod nadroedd y gwair a draenogod yn imiwn.

 

Dolenni eraill