Neidr ddefaid
Anguis fragilis
Mae’r neidr ddefaid yn edrych yn debyg iawn i neidr fach ond madfall ddigoes ydw mewn gwirionedd. Mae ganddo amrannau (felly mae’n gallu blincio), agoriad i’r glust, tafod fforchog fflat, ac mae’n gallu gollwng ei gynffon i ddianc rhag ysglyfaethwr, er nad yw byth yn tyfu'n ôl yn llawn. Gallai dyfu hyd at 50cm o hyd.
Mae gan y neidr ddefaid ymddangosiad gloyw. Mae gwrywod yn frown llwyd (er bod hyn yn amrywiol) ac weithiau mae ganddyn nhw smotiau glas; tra bod benywod yn frown copr gydag ochrau tywyll. Weithiau mae gan fenywod streipen dywyll ar hyd y cefn. Mae rhai ifanc yn fach, yn mesur tua 4cm o hyd yn unig, yn denau iawn ac mae iddynt ochrau aur, arian neu gopr, weithiau gyda streipen dywyll yn rhedeg ar hyd y corff i lawr y cefn.
Nid yw mwydod araf yn tueddu i dorheulo yn yr awyr agored, mae'n well ganddyn nhw guddio o dan foncyffion, mewn tomen compost, neu ddarnau sgwâr o haearn rhychog yn yr haul. Maen nhw’n bwydo ar wlithod, malwod, pryfed cop, pryfed a phryfed genwair, yn bennaf wrth iddi nosi.
Maen nhw’n deffro o aeafgysgu yn y gwanwyn, ac mae bridio yn digwydd yn ystod Ebrill a Mai. Mae nadroedd defaid yn ymddeorol sy'n golygu bod yr wyau'n cael eu dodwy o fewn corff y fenyw. Yna mai’n deor yr wyau y tu mewn iddi, ac ymhen amser yn ‘rhoi genedigaeth’ i tua wyth ifanc byw tuag at ddiwedd yr haf. Maen nhw’n goroesi'r gaeaf trwy aeafgysgu o dan y ddaear, neu o dan bentyrrau o ddail, neu o fewn gwreiddiau coed.
Maen nhw'n cael eu bwyta gan lawer o ysglyfaethwyr fel nadroedd, draenogod, llwynogod, adar, a'r gath ddomestig.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Mae nadroedd defaid yn bwyta gwlithod, malwod ac infertebratau bach eraill.
Ble a phryd i'w gweld
Maent yn gyffredin yng Nghymru a de-orllewin Lloegr, ac yn absennol o Iwerddon.
Fe’u ceir yn aml mewn amodau llaith ac yn ffafrio dolydd, ymylon tir coed, tir fferm, gerddi a lotments.
Maent yn effro a phrysur o fis Mawrth i fis Tachwedd.
Edrychwch o dan foncyffion neu ddarnau o haearn rhychog, ond cofiwch osod yn ôl unrhyw beth rydych chi'n ei symud.
Map yn dangos dosbarthiad 10km nadroedd defaid yng Nghymru.
Statws cyfreithiol
Rhestrir y rhywogaeth yn Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, felly mae'n drosedd eu lladd, anafu neu eu gwerthu neu eu masnachu.
A wyddost ti?
Mae'r gynffon sy’n cael ei golli yn parhau i symud o gwmpas er mwyn tynnu sylw'r ymosodwr, tra bod y neidr ddefaid yn dianc!
Mae nadroedd defaid yn gwbl ddiniwed ac yn ddefnyddiol i arddwyr trwy fwyta gwlithod, malwod ac infertebratau pla eraill. Gallan nhw fyw hyd at 20 mlynedd!