Pry copyn gwenyn meirch

Argiope bruennichi

Mae pry copyn gwenyn meirch, fel y mae ei enw'n awgrymu yn dynwared gwenyn meirch. Mae'r fenyw yn fawr, yn mesur 14-17mm, ac mae ganddi streipiau melyn, du a gwyn ar draws ei chorff a'i choesau. Mae ganddi hefyd flew gloyw yn gorchuddio ei seffalothoracs (y pen wedi'i gysylltu â'r thoracs). Mae'r gwryw, mewn cymhariaeth yn llawer llai, yn mesur 4-6mm yn unig ac mae'n frown golau. Mae'r drydedd set o goesau'r gwryw a'r fenyw yn llawer llai ac yn fyrrach na'r coesau eraill. Er bod y pryfed copyn lliwgar ac arbennig hyn yn edrych fel gwenyn meirch, maen nhw mewn gwirionedd yn gwbl ddiniwed ac yn methu pigo.

Mae eu gweoedd ar siâp ‘orb’ fel copyn y groes, ond mae ganddyn nhw batrwm igam-ogam sengl o sidan drwy’r canol (a elwir yn ‘stabilimentum’). Credir ei fod yn adlewyrchu golau uwchfioled ac yn denu pryfed peillio fel pryfed, gwenyn a gwyfynod.

Credir bod y pry copyn gwenyn meirch wedi tarddu yn y Canoldir, ond wedi cytrefu a lledaenu, a bellach wedi dod yn gyffredin yn lleol ar hyd arfordir de Lloegr. Maen nhw wedi symud tua'r gogledd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac i'w cael nawr yn ne a chanolbarth Cymru, a chyn belled i'r gogledd â Swydd Amwythig a Swydd Derby.

 

Beth maen nhw'n ei fwyta

Eu prif brae yw ceiliogod rhedyn a chriciaid, ond hefyd chwilod a phryfed mawr. Maen nhw’n creu eu gweoedd mewn llystyfiant tal.

 

Ble a phryd i'w gweld

  • Mae pry copyn gwenyn meirch i'w weld mewn tir glaswellt, ardaloedd arfordirol, tir fferm, rhostir, tir coed a gerddi.

  • Maen nhw i’w gweld rhwng Ebrill a Hydref.

Map yn dangos dosbarthiad 10km pry copyn gwenyn meirch yng Nghymru.

 

Statws cyfreithiol

Dim

Rhywogaethau tebyg

Dim

A wyddost ti?

Mae’r fenyw llawer mwy peryglus na'r gwryw! Mae gwrywod yn aml yn cael eu bwyta gan y benywod ar ôl paru!

 

Dolenni eraill