Brwynen flodeuog
Butomus umbellatus
Mae brwynen flodeuog yn blanhigyn tal deniadol dros ben sy'n tyfu hyd at 1.5m o daldra. Mae gan y planhigyn lluosflwydd di-flew hwn glwstwr o bennau blodau o'r enw wmbel gyda blodau siâp cwpan yn mesur 2.5-3cm. Mae'r blodau pinc wedi'u ffurfio o dri phetal pinc gwelw a thri sepal pinc tywyll, a gellir eu gweld rhwng Gorffennaf ac Awst. Mae gan bob blodyn 6-9 brigeryn.
Mae'r dail yn hir ac yn debyg i laswellt gyda gwythiennau cyfochrog. Maen nhw’n drionglog mewn rhannau, ac yn droellog eu golwg. Mae'r planhigyn yn ymledu gan ddefnyddio rhisomau ymledol, a gall ffurfio grwpiau mawr.
Ble a phryd i'w gweld
Mae'r planhigion hyn yn blodeuo rhwng Gorffennaf ac Awst.
Fe'u ceir mewn dŵr bas fel ymyl pyllau, a ffosydd, camlesi ac afonydd sy'n llifo’n araf.
Map yn dangos dosbarthiad 10km brwynen flodeuog yng Nghymru.
Statws cyfreithiol
Dim
Rhywogaethau tebyg
Dim. Ar yr wyneb, efallai bod y planhigyn yma yn edrych fel garllegyn gardd ond mae'r cynefinoedd yn wahanol iawn.
A wyddost ti?
Mae'n rhywogaeth ymosodol, ymledol yng Ngogledd America; ac mewn rhannau o Rwsia mae’r rhisomau yn cael eu bwyta!