Gwenyn Eiddew
Colletes hederae
Cofnodwyd y gwenyn eiddew gyntaf yn y DU yn 2001 felly’n newydd-ddyfodiad i ffawna Prydain. Gwenyn unigol ydyn nhw gyda phob gwenyn benywaidd yn cloddio ei thwll ei hun mewn pridd chwâl neu dywod. Mae'r fenyw yn creu siambrau tanddaearol lle bydd hi'n dodwy ei hwyau. Bydd yn darparu paill i'r gwenyn sy’n deor nes iddi farw yn y diwedd gan adael y rhai bach yn chwileru’n oedolion. Bydd yr oedolion yn dod ymddangos yn yr hydref.
Mae gan wenyn eiddew abdomen streipïog oren-felyn a brest sinsir, ac maen nhw'n mesur 8.5mm i 10mm.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Eu prif ffynhonnell fwyd yw eiddew, felly gellir ei gweld yn yr hydref pan fydd eiddew yn blodeuo. Gallant hefyd daro heibio blodau hwyr eraill fel tafod-y-llew gwrychog.
Ble a phryd i'w gweld
Fe'u gwelir amlaf yn yr hydref pan fydd eiddew yn blodeuo, ond ar y cyfan fe’u gwelir o ddiwedd mis Awst ac i mewn i fis Tachwedd.
Nhw yw'r gwenyn unigol olaf i ymddangos ac maen nhw'n gymharol hawdd i'w hadnabod gan fod llai o wenyn eraill o gwmpas mor hwyr yn y tymor.
Gellir eu gweld mewn cynefinoedd trefol, tir fferm, arfordirol a rhostiroedd, ac yn aml yn nythu mewn tyrrau mawr (weithiau mae cannoedd neu filoedd o fenywod yn nythu'n agos at ei gilydd). Fe'u cofnodwyd yn ne Cymru a Lloegr, ond bellach yn ymledu i'r gogledd a'r gorllewin.
Map yn dangos dosbarthiad 10km gwenyn eiddew yng Nghymru.
Statws cyfreithiol
Dim
Rhywogaethau tebyg
Gwenyn mêl (Apis mellifera)
Dim ond un rhywogaeth o wenyn mêl sydd yn y DU ac mae'n cael ei nodi gan ei frest lliw tywod a'i abdomen du gyda rhesi ambr euraidd. Yn gyffredinol, fe’u gwelir rhwng Mawrth a Medi, ac yn byw mewn cytrefi mawr gydag un frenhines. Gellir eu gweld yn unrhyw le gyda digon o flodau gan gynnwys parciau, gerddi, tir coed, perllannau a dolydd. Maen nhw'n byw mewn cytref gydag un frenhines, a llawer o weithwyr a gwenyn gormes. Maen nhw’n tueddu i fyw mewn strwythurau dynol o'r enw cychod gwenyn; mae cytrefi gwyllt yn brin ond gellir eu canfod mewn coed gwag.
Gwenyn meirch (Vespula vulgaris)
Mae gwenyn meirch yn mesur tua 2cm o hyd, ac mae ganddyn nhw resi melyn llachar a du ar hyd y corff, gyda ‘gwasg’ amlwg rhwng y thoracs a’r abdomen. Mae ganddyn nhw hefyd farc siâp angor ar eu hwynebau. Maen nhw’n gyffredin iawn ac i'w cael mewn amrywiaeth o gynefinoedd gan gynnwys gerddi, parciau, tir coed a dolydd.
Mae gwenyn meirch yn bryfed cymdeithasol gydag un frenhines, a llawer o wenyn gormes a gweithwyr yn byw y tu mewn i nyth. Mae'r nyth lle mae'r gytref yn byw wedi'i wneud o bren wedi'i gnoi a phoer sy'n creu deunydd tebyg i bapur. Mae gan wenyn meirch bigiad i'w galluogi i ddal a llonyddu eu prae (fel llyslau, lindys, pryfed a phryfed cop). Byddan nhw hefyd yn defnyddio eu pigiad i amddiffyn eu hunain neu eu nyth.
A wyddost ti?
Dim ond yn 1993 y disgrifiwyd y wenynen eiddew fel newydd-ddyfodiad i wyddoniaeth.