Rhaglen 2 – Deall a Gwerthfawrogi
Nod y deg prosiect o fewn y rhaglen benodol yma yw ei gwneud hi'n haws i ystod eang o bobl allu ymweld a mwynhau hanes a threftadaeth ddiddorol Gwastadeddau Gwent, gan wella delwedd gyffredinol y Gwastadeddau fel cyrchfan i ymweld a mwynhau.
Bydd y prosiectau'n helpu i ddathlu'r hyn sy'n unigryw ac yn arbennig am y Gwastadeddau trwy fuddsoddiadau mewn seilwaith ymwelwyr newydd i gyfoethogi mannau arbennig, mynedfeydd a llwybrau cerdded a beicio nodedig ar draws y Gwastadeddau. Cymerwch olwg ar y prosiectau isod i gael gwybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud i helpu pobl i gael mynediad, i werthfawrogi ac i fwynhau'r tirlun arbennig iawn yma.
Porwch ein prosiectau am ragor o wybodaeth.
Darllenwch am ein prosiect cyffrous i greu cyfres o gerfluniau 'pobl o’r tirlun’ i ddathlu hanes y tirlun yma sydd wedi'i grefftio â llaw trwy ddod ag ambell gymeriad o hanes y Gwastadeddau yn fyw – y cymeriadau sydd wedi helpu i lunio’r dirwedd dros filoedd o flynyddoedd.
Darganfyddwch ein cynlluniau i greu rhwydwaith o ganolfannau ymwelwyr a chymunedol ar draws y Gwastadeddau i ddarparu gwybodaeth, cyfarwyddiadau a dehongliad newydd i helpu pobl i ddarganfod a phrofi treftadaeth ddifyr Gwastadeddau Gwent.
Darllenwch am ein cynlluniau i adfywio ac adnewyddu’r seilwaith ymwelwyr yn Lighthouse Inn ar Wastadeddau Gwynllŵg i helpu preswylwyr ac ymwelwyr lleol i brofi’r Gwastadeddau Gorllewinol ar feic neu ar droed.
Cymerwch ran gyda'r prosiect cyffrous hwn i archwilio, ffilmio a chymryd lluniau o'r Gwastadeddau o amryw o wahanol fannau ffafriol - o fyny fry yn yr awyr i dan ddŵr yn y ffosydd - gan helpu i ddal cymeriad arbennig ac unigryw’r tirlun yma.
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu hanes a threftadaeth unigryw'r tirlun trwy galendr o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn ac ar draws y Gwastadeddau.
Helpwch ni i ymchwilio hanes lleol eglwysi'r Gwastadeddau i'w cynnwys mewn dehongliad newydd ac arddangosfeydd i'w gosod mewn chwe eglwys ar draws y Gwastadeddau.
Darganfyddwch ein rhwydwaith newydd o gylchoedd-a-dolenni ar gyfer cerddwyr a beicwyr ar draws y Gwastadeddau.
Darllenwch am ein cynlluniau i wella arwyddion y Gwastadeddau – ar y ffordd yno ac wrth ymadael, ac ychwanegu teimlad o hunaniaeth y Gwastadeddau i arwyddion y pentref yn yr ardal.
Darganfyddwch ein cynlluniau i osod modelau ac arddangosfeydd newydd sy'n adrodd hanes creu’r Gwastadeddau yn ogystal â gwe-gamerâu byw er mwyn i chi weld a mwynhau adar a bywyd gwyllt hudolus y Warchodfa Natur Genedlaethol.
Darganfyddwch ein cynlluniau i helpu i godi ymwybyddiaeth a theyrngarwch i ardal y Lefelau Byw trwy ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd gyda syniadau brandio a marchnata arloesol.