Rhaglen 1 - Gwarchod ac Adnewyddu
Gwarchod, diogelu a chyfoethogi treftadaeth naturiol Gwastadeddau Gwent yw nod y saith prosiect yn y rhaglen hon - gan gynnwys nodweddion y dirwedd hanesyddol, bywyd gwyllt a system draenio hynafol.
Byddant hefyd yn helpu i ddatblygu gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o'r dirwedd arbennig, bioamrywiaeth, trefn reoli a threftadaeth y Gwastadeddau ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd lleol a bydd nifer o gyfleoedd gwirfoddoli.
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i fynd i'r afael ag anghenion hanfodol bioamrywiaeth a thirwedd yr ardal yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol i daclo problemau ymddygiad anghymdeithasol allweddol sy'n effeithio’r Gwastadeddau, gan gynnwys tipio anghyfreithlon.
Porwch ein prosiectau am ragor o wybodaeth.
Dysgwch am sut yr ydym yn helpu i warchod a chyfoethogi nodweddion tirwedd hanesyddol nodedig a lled-naturiol Gwastadeddau Gwent er lles y bywyd gwyllt a phobl gyda'n cynllun grant arloesol ar gyfer tirfeddianwyr a ffermwyr lleol.
Ymunwch â'n cynlluniau uchelgeisiol i hybu a chyfoethogi cynefin y gardwenynen fain prin a darganfyddwch beth fyddwn ni'n ei wneud i godi ymwybyddiaeth a dathlu bywydau pryfetach prin ac unigryw yng Ngwastadeddau Gwent.
Darllenwch am ein rhaglen o weithgareddau fydd yn ymladd yn erbyn bygythiad o rywogaethau estron goresgynnol a allai niweidio ecosystemau bregus Gwastadeddau Gwent.
Helpwch ni i frwydro yn erbyn y difrod yma ar y dirwedd trwy gymryd rhan yn ein grŵp gweithredu yn erbyn tipio a’n gweithgareddau. Dysgwch sut y byddwn ni'n helpu i orfodi achosion anghyfreithlon o’r fath ac annog newid ymddygiad gyda'r prosiect cyffrous ac arloesol hwn.
Gweithiwch gyda ni i archwilio cyfleoedd ar gyfer busnesau newydd a chreu incwm yng Ngwastadeddau Gwent drwy ymchwilio busnes, twristiaeth a thaliadau ar gyfer cynlluniau gwasanaeth ecosystem.
Helpwch ni i adfywio a dathlu perllannau traddodiadol Gwastadeddau Gwent.
Darganfyddwch ein cynlluniau i weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr lleol i gynllunio arferion fferm fwy cynaliadwy sy'n diogelu ac yn gwella nodweddion unigryw a hanesyddol y dirwedd wrth sicrhau incwm fferm gynaliadwy.