Bydd y prosiect LLDM-9 Datgelu Gwastadeddau Gwent yn darparu arddangosfeydd a nodweddion newydd cyffrous yng Nghanolfan Ymwelwyr ac Addysg Amgylcheddol Gwlyptiroedd Casnewydd i arddangos y ffyrdd diddorol y mae tirwedd Gwent wedi cael ei greu a'i gynnal trwy'r oesoedd, o anheddiad cynnar, trwy adferiad Rhufeinig i'r dyddiau modern. Mae’r darn dehongli allweddol yn seiliedig ar fodel cerfwedd o ardal nodweddiadol o dirwedd Gwastadeddau Gwent, yn dangos cymhlethdodau'r system ddraenio hanesyddol ac amddiffynfeydd môr a'u rôl hanfodol wrth gynnal y cynefinoedd a'r tirlun sydd wedi goroesi hyd at heddiw.
Bydd hyn yn cynnwys llinell amser mewn dur yn dangos digwyddiadau amrywiol sydd wedi llunio tirwedd, ecoleg a threftadaeth yr ardal. Mae'r tîm yng Ngwlyptiroedd Casnewydd hefyd yn datblygu man arddangosfa fechan i ychwanegu at y darn hwn trwy fap wedi'i ddarlunio o'r gwastadeddau, cerdd gan y bardd enwog W H Davies, ac amrywiaeth o esgyrn, offer ac arteffactau cynhanesyddol. Gan mai dim ond man fechan fydd yma, bydd y map a’r gerdd yn cynnwys realiti estynedig (AR) i helpu i adrodd stori Gwastadeddau Gwent. Yn ogystal, bydd offer digidol yn cael eu gosod i helpu ymwelwyr i weld yr ystod eang o rywogaethau sy'n byw ar y warchodfa. Mae llawer o rywogaethau 'o’r golwg' naill ai o fewn y camlesi neu'r corslwyni sy'n arwain pobl i feddwl nad oes dim byd yno! Bydd ein camerâu yn dangos rhywfaint o'r bywyd cudd hwn ac yn helpu’r ymwelwyr i weld yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sy’n lloches yng Ngwastadeddau Gwent.
Mae'r dehongliad yn dal i fod yn y cyfnod cynllunio, felly nid oes unrhyw ddehongliad wedi'i gwblhau eto. Er hynny, mae’r camau cynllunio a dylunio wedi arwain at rai canlyniadau diddorol:
Mae staff a gwirfoddolwyr wedi gwneud llawer o ymchwil am themâu Gwastadeddau Gwent, yn enwedig yn ardal gyfagos Gwlyptiroedd Casnewydd. Felly, rydym wedi adeiladu sylfaen wych o wybodaeth i'w rhannu â'n hymwelwyr.
Rydym wedi ymgynghori ag ymwelwyr ar yr hyn maen nhw'n ei feddwl yw themâu pwysig i'w cynnwys ar y llinell amser dur
Trefnwyd digwyddiad BioBlitz ac fe ddaeth dros 1000 o ymwelwyr, gan amlygu'r amrywiaeth anhygoel o blanhigion ac anifeiliaid sy'n byw yn yr ardal arbennig hon.
Mae gennym wirfoddolwr Gwastadeddau Byw ymroddedig.
Mae gennym 2 o fyfyrwyr Prifysgol De Cymru ar brofiad gwaith yn cynorthwyo gyda'r gwaith o gynllunio’r map a’r gerdd.
Rydym wedi dechrau creu llyfrgell o sgyrsiau 10 munud y gellir eu defnyddio gydag ymwelwyr y gwlyptiroedd i roi cyflwyniad i rai o themâu allweddol y cynllun.
Mae pob un ohonom yn dysgu am dechnoleg newydd, fel realiti estynedig, ynghyd â’r dylunwyr yr ydym yn gweithio â nhw!
Dylai’r dehongliad newydd gael ei gwblhau ddiwedd mis Mawrth, 2019. Os hoffech wybod mwy neu gymryd rhan, byddai Helen yn falch iawn o glywed gennych chi!