Canolfannau Hwb

Mae prosiect LLDM-2 Canolfannau Hwb yn gweithio tuag at greu lefelau o rwydwaith o ganolfannau ymwelwyr a chymunedol ar draws y Gwastadeddau i ddarparu gwybodaeth, cyfarwyddiadau a dehongliad newydd i helpu pobl i ddarganfod a phrofi treftadaeth ddifyr Gwastadeddau Gwent.

 

Bydd cyfres o brif ganolfannau ymwelwyr yn cael eu creu i helpu ymwelwyr i ddarganfod treftadaeth amryw o safleoedd ar draws y Gwastadeddau ac yn gymorth i archwilio'r ardal yn ehangach. Ar lefel gymunedol, bydd yr hybiau yn helpu i gysylltu cymunedau â'r hyn sydd ar garreg eu drysau trwy gymysgedd o ddarpariaeth newydd (arwyddion a gwybodaeth) a gweithgareddau. Bydd gwelliannau ehangach o gyfarwyddiadau o orsafoedd trên a chadwyn o amgueddfeydd o gwmpas y Gwastadeddau yn helpu i gyfeirio pobl at y Gwastadeddau yn ystod eu hymweliad. Cadwch olwg ar y newyddion diweddaraf ar gyfer gwybodaeth bellach, ac os ydych am gael ragor o wybodaeth neu gymryd rhan, cysylltwch â ni!


Arweinydd y Prosiect
Swyddog Mynediad a Dehongli Lefelau Byw

Amserlen y Prosiect
Gorffennaf 2018 – Rhagfyr 2020

Cyfeirnod Lefelau Byw
LLDM-2

Cyswllt
Chris Harris
Swyddog Mynediad a Dehongli Lefelau Byw
E-bost