Ysbrydoli! Eglwysi ar y Gwastadeddau

Mae prosiect LLDM-6 Eglwysi ar y Gwastadeddau yn ymchwilio hanes lleol eglwysi'r Gwastadeddau. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar ddylanwad yr Eglwys ar y tirlun ac yn dilyn bydd cyfres o arddangosfeydd newydd i'w gosod mewn chwe eglwys ar draws y Gwastadeddau.

Hyrwyddir mynediad i nifer o eglwysi gyda dehongliad yn cael ei ychwanegu, a bydd dau lwybr treftadaeth newydd yn cael eu datblygu a fydd yn arwain at lwybrau’r eglwysi. Mae'r eglwysi canoloesol ar y Gwastadeddau yn ganolbwyntiau yn y tirlun - yn enwedig oherwydd bod eu tyrau pigfain yn cael eu defnyddio fel marcwyr fertigol yn codi uwchben caeau isel y tirlun sy’n amgylchynu. Maent wedi bod yn ganolbwyntiau i gymunedau o'u cwmpas, wedi gweld ac wedi eu creithio gan fywyd a marwolaeth ar y Gwastadeddau - megis y llifogydd trychinebus yn 1607. Mae rhan helaeth o stori’r Gwastadeddau ynghlwm a’r eglwysi a'r cymunedau sy'n byw o'u hamgylch. Cysylltwch â ni os ydych chi am gymryd rhan neu eisiau rhannu unrhyw wybodaeth am eglwysi’r Gwastadeddau gyda ni!


Arweinydd y Prosiect
Swyddog Mynediad a Dehongli Lefelau Byw

Amserlen y Prosiect
Awst 2018 – Rhagfyr 2019

Cyfeirnod Lefelau Byw
LLDM-6

Cyswllt
Chris Harris
Swyddog Mynediad a Dehongli Lefelau Byw
E-bost