Cylchoedd-a-Dolenni y Gwastadeddau

Bydd prosiect LLDM-7 Cylchoedd-a-Dolenni y Gwastadeddau yn annog darganfod ac archwilio tirlun anhygoel y Gwastadeddau, yn bennaf ar droed a beic ond hefyd ar gefn ceffyl. Mae amrywiaeth o lwybrau cylchol a syth yn cael eu datblygu, ac yn cynnig amryw o hydoedd i weddu gwahanol uchelgeisiau a galluoedd, gan osgoi ardaloedd sensitif y tirlun er mwyn osgoi tarfu ar y bywyd gwyllt gwerthfawr mewn rhai mannau. Bydd y prosiect hefyd yn darparu cysylltiadau o lwybrau a hyrwyddir a chymunedau i Lwybr Arfordir Cymru a Llwybr 4 NCN (Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol) Sustrans a Llwybr 88.

Levels Loops and Links Cyclists project page.jpg

Bydd y llwybrau'n cysylltu â seilwaith newydd sy'n cael ei ychwanegu gan brosiectau eraill - megis y canolfannau hwb, cerfluniau a marcwyr llanw ac eglwysi, gan helpu i greu cysylltiadau ar draws y tirlun ac yn hwyluso’r archwilio. Gobeithio y byddwch yn ymuno â ni ar ein teithiau cerdded a sgyrsiau tywys (gweler Calendr Digwyddiadau am ragor o wybodaeth). Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu hyrwyddo a chynnal ein llwybrau, felly os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni, a bydd y newyddion diweddaraf yn cynnwys gwybodaeth am y llwybrau wedi i’w cwblhau. Bydd canllawiau llwybrau cerdded yn cael eu datblygu i’w lawrlwytho a’u hychwanegu i’r dudalen hon wedi iddynt gael eu cwblhau.


Arweinydd y Prosiect
Swyddog Mynediad a Dehongli Lefelau Byw

Amserlen y Prosiect
Awst 2018 – Medi 2020

Cyfeirnod Lefelau Byw
LLDM-7

Cyswllt
Chris Harris
Swyddog Mynediad a Dehongli Lefelau Byw
E-bost