Mae Calendr Digwyddiadau’r Gwastadeddau LLDM-5 yn dod â nifer o ddigwyddiadau presennol a newydd ynghyd i gyd-ddathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol gyffrous y Gwastadeddau. Mae’r digwyddiadau'n seiliedig ar berfformiadau tymhorol naturiol, megis mudo adar y gaeaf, llanwau’r gwanwyn, afalau cynhaeaf yn y perllannau a blodeuo yn ystod yr haf yn ogystal â digwyddiadau diwylliannol presennol a newydd. Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal trwy gydol pob blwyddyn ac mewn gwahanol leoliadau ar draws y Gwastadeddau. Cadwch olwg ar ein calendr digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf a’r dyddiadau pwysig ar gyfer eich dyddiaduron. Os hoffech wirfoddoli drwy helpu gydag unrhyw un o'n digwyddiadau, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gavin. Mae mwy o gyfleoedd gwirfoddoli i’w gweld yma.
Darllenwch am ein prosiect cyffrous i greu cyfres o gerfluniau 'pobl o’r tirlun’ i ddathlu hanes y tirlun yma sydd wedi'i grefftio â llaw trwy ddod ag ambell gymeriad o hanes y Gwastadeddau yn fyw – y cymeriadau sydd wedi helpu i lunio’r dirwedd dros filoedd o flynyddoedd.
Darganfyddwch ein cynlluniau i greu rhwydwaith o ganolfannau ymwelwyr a chymunedol ar draws y Gwastadeddau i ddarparu gwybodaeth, cyfarwyddiadau a dehongliad newydd i helpu pobl i ddarganfod a phrofi treftadaeth ddifyr Gwastadeddau Gwent.
Darllenwch am ein cynlluniau i adfywio ac adnewyddu’r seilwaith ymwelwyr yn Lighthouse Inn ar Wastadeddau Gwynllŵg i helpu preswylwyr ac ymwelwyr lleol i brofi’r Gwastadeddau Gorllewinol ar feic neu ar droed.
Cymerwch ran gyda'r prosiect cyffrous hwn i archwilio, ffilmio a chymryd lluniau o'r Gwastadeddau o amryw o wahanol fannau ffafriol - o fyny fry yn yr awyr i dan ddŵr yn y ffosydd - gan helpu i ddal cymeriad arbennig ac unigryw’r tirlun yma.
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu hanes a threftadaeth unigryw'r tirlun trwy galendr o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn ac ar draws y Gwastadeddau.
Helpwch ni i ymchwilio hanes lleol eglwysi'r Gwastadeddau i'w cynnwys mewn dehongliad newydd ac arddangosfeydd i'w gosod mewn chwe eglwys ar draws y Gwastadeddau.
Darganfyddwch ein rhwydwaith newydd o gylchoedd-a-dolenni ar gyfer cerddwyr a beicwyr ar draws y Gwastadeddau.
Darllenwch am ein cynlluniau i wella arwyddion y Gwastadeddau – ar y ffordd yno ac wrth ymadael, ac ychwanegu teimlad o hunaniaeth y Gwastadeddau i arwyddion y pentref yn yr ardal.
Darganfyddwch ein cynlluniau i osod modelau ac arddangosfeydd newydd sy'n adrodd hanes creu’r Gwastadeddau yn ogystal â gwe-gamerâu byw er mwyn i chi weld a mwynhau adar a bywyd gwyllt hudolus y Warchodfa Natur Genedlaethol.
Darganfyddwch ein cynlluniau i helpu i godi ymwybyddiaeth a theyrngarwch i ardal y Lefelau Byw trwy ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd gyda syniadau brandio a marchnata arloesol.
Arweinydd y Prosiect
Swyddog Ymgysylltu â Chymuned Lefelau Byw
Amserlen y Prosiect
Mawrth 2018 – Mawrth 2021
Cyfeirnod Lefelau Byw
LLDM-5
Cyswllt
Gavin Jones
Swyddog Ymgysylltu â Chymuned Lefelau Byw
E-bost