Cerfluniau a Marciwr Llanw

Bydd prosiect LLDM-1 Cerfluniau a Marcwyr Llanw yn creu cyfres o gerfluniau 'pobl o’r tirlun’ i ddathlu hanes y tirlun yma sydd wedi'i grefftio â llaw trwy ddod ag ambell gymeriad o hanes y Gwastadeddau yn fyw – y cymeriadau sydd wedi helpu i lunio’r dirwedd dros filoedd o flynyddoedd. Bydd hefyd yn cyflwyno cyfres o farcwyr llanw ar draws y Gwastadeddau i ddangos lefelau'r llanw presennol ac yn hanesyddol, gan esbonio rôl amddiffyniadau môr a'r system ddraenio wrth gynnal tirlun trigiadwy a chynhyrchiol ar gyfer ffermio a diwydiant.

Sculpture project page.jpg
 

Wrth weithio gyda chymunedau lleol i ddatguddio straeon dynol difyr, straeon sy’n asgwrn cefn i’r Gwastadeddau, bydd marcwyr llanw a cherfluniau ar ffurf ddynol yn cael eu gosod. I gymryd rhan, cysylltwch â ni - byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi!


Arweinydd y Prosiect
Swyddog Mynediad a Dehongli Lefelau Byw

Amserlen y Prosiect
Gorffennaf 2019 – Rhagfyr 2020

Cyfeirnod Lefelau Byw
LLDM-1

Cyswllt
Chris Harris Swyddog Mynediad a Dehongli Lefelau Byw
E-bost