Mae prosiect LLDM-4 Lefelau Gwahanol yn gyfle cyffrous i archwilio'r Gwastadeddau o amryw o onglau newydd a diddorol! Yn aml dywedir mai drwy ficrosgop neu o hofrennydd y gwelir y Gwastadeddau ar eu gorau, a bydd y prosiect hwn yn profi'r theori trwy greu cyfres o ddarnau o waith treigl amser, drôn, tanddwr a lluniau llonydd sy'n dal cymeriad y tirlun. Yn ogystal, bydd y prosiect yn gweithio gydag eglwysi lleol i agor eu tyrau ar gyfer digwyddiadau arbennig gan mai yma y gwelir rhai o'r golygfeydd gorau ar y Gwastadeddau! Rydym yn croesawu cyflwyniadau gan ffotograffwyr ac artistiaid brwd ac os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Chris a Gavin!
Darllenwch am ein prosiect cyffrous i greu cyfres o gerfluniau 'pobl o’r tirlun’ i ddathlu hanes y tirlun yma sydd wedi'i grefftio â llaw trwy ddod ag ambell gymeriad o hanes y Gwastadeddau yn fyw – y cymeriadau sydd wedi helpu i lunio’r dirwedd dros filoedd o flynyddoedd.
Darganfyddwch ein cynlluniau i greu rhwydwaith o ganolfannau ymwelwyr a chymunedol ar draws y Gwastadeddau i ddarparu gwybodaeth, cyfarwyddiadau a dehongliad newydd i helpu pobl i ddarganfod a phrofi treftadaeth ddifyr Gwastadeddau Gwent.
Darllenwch am ein cynlluniau i adfywio ac adnewyddu’r seilwaith ymwelwyr yn Lighthouse Inn ar Wastadeddau Gwynllŵg i helpu preswylwyr ac ymwelwyr lleol i brofi’r Gwastadeddau Gorllewinol ar feic neu ar droed.
Cymerwch ran gyda'r prosiect cyffrous hwn i archwilio, ffilmio a chymryd lluniau o'r Gwastadeddau o amryw o wahanol fannau ffafriol - o fyny fry yn yr awyr i dan ddŵr yn y ffosydd - gan helpu i ddal cymeriad arbennig ac unigryw’r tirlun yma.
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu hanes a threftadaeth unigryw'r tirlun trwy galendr o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn ac ar draws y Gwastadeddau.
Helpwch ni i ymchwilio hanes lleol eglwysi'r Gwastadeddau i'w cynnwys mewn dehongliad newydd ac arddangosfeydd i'w gosod mewn chwe eglwys ar draws y Gwastadeddau.
Darganfyddwch ein rhwydwaith newydd o gylchoedd-a-dolenni ar gyfer cerddwyr a beicwyr ar draws y Gwastadeddau.
Darllenwch am ein cynlluniau i wella arwyddion y Gwastadeddau – ar y ffordd yno ac wrth ymadael, ac ychwanegu teimlad o hunaniaeth y Gwastadeddau i arwyddion y pentref yn yr ardal.
Darganfyddwch ein cynlluniau i osod modelau ac arddangosfeydd newydd sy'n adrodd hanes creu’r Gwastadeddau yn ogystal â gwe-gamerâu byw er mwyn i chi weld a mwynhau adar a bywyd gwyllt hudolus y Warchodfa Natur Genedlaethol.
Darganfyddwch ein cynlluniau i helpu i godi ymwybyddiaeth a theyrngarwch i ardal y Lefelau Byw trwy ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd gyda syniadau brandio a marchnata arloesol.