Rhaglen 3 - Dysgu a Chymryd Rhan
Nod y saith prosiect yn y rhaglen hon yw darparu cyfleoedd i gysylltu â'r tirlun yn ogystal â darparu sgiliau a hyfforddiant mewn amryw o bynciau sy'n gysylltiedig â threftadaeth ac arferion rheoli unigryw Gwastadeddau Gwent.
Bydd y prosiectau'n creu helaeth o gyfleoedd gwirfoddol sy'n cynnwys hanes, archeoleg, twristiaeth, cadwraeth a gwaith celf a bydd digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ysbrydoli. Ewch i dudalennau'r prosiect i ddarganfod sut y gallech gymryd rhan...
Porwch ein prosiectau am ragor o wybodaeth.
Darganfyddwch ein cynlluniau i weithio gyda thirfeddianwyr a gwirfoddolwyr i arolygu, cofnodi a mapio tir sy’n cynnwys natur a hanes gwerthfawr er mwyn sicrhau diogelwch digonol i’r lleoliadau hyn yn y systemau cynllunio lleol ar draws Gwastadeddau Gwent.
Gwirfoddolwch i fod yn rhan o'r prosiect ymchwilio a mapio hanesyddol cyffrous hwn i gyfoethogi gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol o fywyd ar y Gwastadeddau o'r 17eg ganrif ymlaen.
Helpwch ni i gofnodi, diogelu a dehongli hanesion llafar difyr Gwastadeddau Gwent cyn iddynt ddiflannu gyda'r prosiect hwn sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr - cofnodi a hyrwyddo hanesion llafar gan gymunedau sydd wedi byw a gweithio ar draws y Gwastadeddau.
Darganfyddwch sut byddwn ni'n gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau cyffrous ymarferol ac awyr agored sy'n gysylltiedig â hanes ac amgylchedd gwefreiddiol Gwastadeddau Gwent.
Darllenwch am ein cyrsiau hyfforddi y byddwn yn eu cynnig i hyrwyddo sgiliau sydd wedi datblygu'n draddodiadol o fewn tirlun Gwastadeddau Gwent ac i gefnogi'r economi a'r busnesau lleol.
Cyfle i hyfforddi i fod yn llysgennad twristiaeth ar gyfer Gwastadeddau Gwent a helpu ni i gynllunio, datblygu, cynnal a hyrwyddo ein rhwydwaith o Gylchoedd-a-Dolenni.
Darganfyddwch ein cynlluniau i greu gweithiau celf unigryw a chyffrous a fydd yn gymorth i gysylltu cynulleidfaoedd newydd gyda stori unigryw Gwastadeddau Gwent trwy’r oesoedd.