Lighthouse Inn – Mynedfa Ddwyreiniol y Gwastadeddau

Bydd prosiect LLDM-3 Lighthouse Inn – Mynedfa Ddwyreiniol y Gwastadeddau yn ychwanegu prif fynedfa i ymwelwyr i wastadedd Gwynllŵg - ardal boblogaidd ar gyfer cerdded a beicio ac yn le gwych i weld bywyd gwyllt a rhai o nodweddion treftadaeth allweddol y Gwastadeddau. Bydd y prosiect yn adfywio ac yn ail-adeiladu'r seilwaith ymwelwyr gerllaw'r Lighthouse Inn sy'n galluogi mynediad gwell i Lwybr Arfordir Cymru ac oddi wrthynt, yn ogystal â llwybrau eraill yn yr ardal. Bydd cyfarwyddiadau a mannau gwybodaeth yn cael eu hychwanegu, a hefyd lloches, hygyrchedd i'r morglawdd a Llwybr Arfordir Cymru a system llwybrau, maes parcio a mannau parcio diogel i feiciau. I gael gwybod mwy am y cynlluniau, cysylltwch â Jo!

Lighthouse  gateway project page image.JPG

Arweinydd y Prosiect
Cyngor Dinas Casnewydd

Amserlen y Prosiect
Ionawr 2019 – Rhagfyr 2019

Cyfeirnod Lefelau Byw
LLDM-3

Cyswllt
Joanne Gossage
Rheolwr Gwasanaethau Gwyrdd
E-bost