Cyn i mi barhau, ychydig o gefndir i chi. Huw Grant ydw i ac yn achlysurol, rydw i wedi bod yn wirfoddolwr gyda'r Lefelau Byw ers tua Mehefin 2018. Rwy'n raddedig mewn Archeoleg o Brifysgol Caerdydd ac yn gwirfoddoli'n bennaf gyda Gavin Jones yn helpu i redeg gweithgareddau. Efallai eich bod wedi fy ngweld o gwmpas os ydych chi'n gwirfoddoli neu'n ymwelydd rheolaidd gan fy mod i wedi bod yn rhan o lawer o bethau gwahanol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae Gavin wedi gofyn i mi ysgrifennu erthygl fer ar gyfer y wefan (mae’n rhaid ei fod yn desperat). Felly heb wastraffu mwy o amser, dyma fyfyrdodau Prydeiniwr wedi ei gyfyngu.
Ar ôl cyrraedd Maes Awyr Wellington (cymal olaf fy nhaith i Seland Newydd) cefais fy nghodi gan Rohan, a’r bwriad oedd aros gydag ef am y pythefnos i ddilyn (neu dyna o’n i’n feddwl!) Wrth iddo ddangos i mi beth oedd beth yn ei gartref, cefais fy nharo gan olygfa Harbwr Wellington a'r ddinas y tu ôl iddo. O’r gwledydd rydw I wedi ymweld â nhw, mae Seland Newydd yn unigryw yn yr ystyr na allwch ddweud bo’ chi ar y ffordd i’r ddinas cyn i chi ei chyrraedd. Boed hynny gan hynodrwydd amgylcheddol neu ddyluniad bwriadol tydw’i ddim yn siŵr, ond cefais fy nharo ar unwaith gan ba mor wyrdd oedd Wellington. Mae cymaint o goed na allwch prin ddweud bo’ chi mewn dinas o gwbl. Roedd yr ardaloedd gwledig o gwmpas yr un mor syfrdanol a
thra bod Rohan yn ddiystyriol - “oh tydi hynny’n ddim byd” – mi fydd yn gadael argraff barhaol na anghofiai’n rhwydd.
Mae Seland Newydd yn wlad eithaf unigryw; tra ei fod yn dal i feddu ar fïom cyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid ei hun, roedd y trefedigaethau cynnar yno yn ei hystyried yn fersiwn “gyntefig” o'r DU ac yn ymdrechu'n galed iawn i'w throi'n fersiwn delfrydol o'u cartref blaenorol. O ganlyniad, un o'r pethau cyntaf y sylwais arno oedd pa mor gyfarwydd ydyw. Coed afalau wedi’u gwasgaru yma ac acw yn yr ardd, llwyni yn drwm gyda mwyar duon yn gorchuddio ffensys yn ddiog ac roedd y fronfraith a'r adar du yn uchel eu cloch. Tarfwyd rhywfaint ar y llun delfrydol yma pan fyddai pukeko (math o iâr ddŵr mawr gyda choesau hir) yn dod i'r golwg neu pan dwi’n sylwi ar y doreth o goed ffrwythau; mae ffrwythau sitrws, eirin gwlanog, tamarillos a chiwis i gyd yn rhagori yn hinsawdd gynnes ond mwyn Seland Newydd.
Efallai eich bod wedi clywed ar y newyddion am y 10,000 neu fwy o ddinasyddion Prydain yn styc yn Seland Newydd wrth i'r cyfyngiadau symud gymryd lle ac fe gyrhaeddodd heb lawer o rybudd. O edrych yn ôl, mae'n anhygoel pa mor gyflym y newidiodd popeth. Pan adewais i’r DU ar y 9fed o Fawrth, cyngor y llywodraeth oedd trin popeth fel yr arfer ond golchwch eich dwylo yn rheolaidd am o leiaf 20 eiliad. A dyna ni. Lai na phythefnos yn ddiweddarach roedd y DU ac yn wir bron pob gwlad dros y byd wedi’u cyfyngu’n llwyr. Yn fuan ar ôl i mi gyrraedd Seland Newydd es I mewn i Wellington i chwilio am swydd a chyfleoedd teithio (dyna pa mor normal oedd popeth yn dal i fod). Roedd haul hwyr yr haf yn danbaid ac roedd y strydoedd yn dal i fod dan eu sang. Roedd hipsters stryd Ciwba yn tyrru ynghyd, caffis a thai bwyta yn llawn sgyrsiau hamddenol ac roedd pob siop ar agor. Ar ôl sgwrsio gyda gweinyddes mewn caffi lleol, cefais wybod hyd yn oed am y llefydd gorau i ymgeisio am swyddi lletygarwch! Cyn belled ag yr oedd Wellington (ac yn wir llawer o'r byd ar y pwynt hwnnw) yn y cwestiwn, roedd yn fusnes fel arfer. Wythnos yn ddiweddarach cyhoeddodd Prif Weinidog Seland Newydd Jacinda Adern y Cyfyngiadau Symud Lefel 4 a dyna ddiwedd ar hynny. Felly dyna fi, wedi fy nghyfyngu ar ochr arall y blaned yn ystod y pandemig mwyaf ers Ffliw Sbaen. Rhaid i mi gyfaddef, cefais fy nal ychydig yn ddiarwybod.
Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn hynod ffodus yn fy amgylchiadau yma. Rydw i wedi bod yn treulio fy amser yn Wwoof-io (term nad yw'n adnabyddus yn y DU ond sy'n boblogaidd iawn yn Seland Newydd). Mae'n sefyll am Cyfleoedd Byd-eang ar Ffermydd Organig (WorldWide Opportunities on Organic Farms) ac yn y bôn mae'n golygu gweithio ar fferm am fwyd a llety, mae'n system eithaf syml ond mae'n gweithio'n dda iawn. Felly mae gen i fynediad at oddeutu 100 erw o dir ffermio hardd ac rwy'n cadw'n brysur yn gwneud gwaith fferm amrywiol a garddio. Fy nghynllun gwreiddiol oedd gweithio yma am bythefnos ond deufis yn ddiweddarach rydw i dal yma ac yn ysgrifennu'r erthygl hon o hen gyfrifiadur sydd wedi gweld dyddiau gwell yn y brif ystafell fyw. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa hon wedi fy siwtio'n dda iawn, ac o dan amgylchiadau y cyfyngiadau, does dim sydd llawer gwell na hyn. Os ydych chi erioed wedi cael y pleser o ymweld â Seland Newydd byddwch chi'n gwybod bod Kiwis yn cael eu hadnabod fel pobl garedig a hael ac, o fy mhrofiad i, mae hyn yn wir bob gair.
Gyda'r Cyfyngiadau Symud Lefel 4 bellach yn llacio’n raddol i Lefel 3 mae pobl yn gallu teithio, ac yn Wellington mae rhai tai bwyta a chaffis wedi ail-agor (er mewn niferoedd cyfyngedig iawn a gyda mesurau pellhau llym). Nid yw ymateb Seland Newydd i’r argyfwng wedi bod yn ddim llai nag eithriadol a disgwylir i ni allu llacio rhywfaint ar gyfyngiadau ymhellach mor gynnar â dydd Mercher nesaf!
Er nadhon oedd y daith yr oeddwn yn ei disgwyl o gwbl, serch hynny mae wedi bod yn brofiad bythgofiadwy. Rwy'n gwerthfawrogi pa mor ffodus ydw i o gymharu â llawer o rai eraill. Arhoswch yn ddiogel, cymerwch ofal a gobeithio eich gweld eto ar ôl i hyn fynd heibio.
Huw Grant
Am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â gwirfoddoli gyda Lefelau Byw, cysylltwch â Beccy Williams, Cydlynydd Gwirfoddoli Lefelau Byw. rwilliams@gwentwildlife.org