#WythnosGwirfoddoli2020: Beth mae gwirfoddoli ar gyfer y rhaglen Lefelau Byw yn ei olygu i mi

Fel gwirfoddolwr i'r Gwasanaeth Ymchwil a Thrawsgrifio (Research and Transcription Service / RATS), rwyf wedi bod yn defnyddio dogfennau hanesyddol I ddarlunio llun o faestrefi Caerdydd heddiw ym Mhengam a Llanedern (a'r ardaloedd cyfagos) yn yr 1880au a thu hwnt. Rwyf wedi mwynhau sawl agwedd o’r prosiect, gan gynnwys cwrdd â phobl newydd, ac archwilio ardaloedd yng Nghaerdydd na fyddwn wedi ymweld â nhw fel arall, a thrwy hynny yn fy nghysylltu’n ddyfnach â'r ddinas rwy'n ei galw'n gartref. Er na allaf fwynhau'r
agweddau hyn i’r eithaf ar hyn o bryd, rwyf wedi gallu defnyddio'r sgiliau ymchwil rydw i wedi'u dysgu i barhau â'm prosiect gartref.

Yn ystod y cyfnod cloi, rwyf wedi dysgu bod plwyf Llanedern (Llanedarne gynt) yn yr 1880au yn ardal wledig gyda dros ddeg ar hugain o ffermydd. Mae’r rhestr o enwau yn galw ar oes arall: Ty-yn-y-Berllan, Coed Cloria, Gorswg, Pantyllacca a Ty-to-Maen yw rhai o’n ffefrynnau. Mae rhai o'r enwau wedi diflannu, ond mae eraill yn parhau o fewn enwau strydoedd heddiw fel Clos-y-Berllan. Un o'r ychydig adeiladau hanesyddol sydd wedi goroesi yw eglwys blwyf ganoloesol Sant Edern sy'n dal I fod yn dirnod lleol, a'i thwr gwyn i'w weld yn glir wrth yrru i'r Gorllewin tuag at Gaerdydd ar hyd yr A48.

IMG_20200527_175826530.jpg

Wrth ymchwilio’r eglwys, des i ar draws braslun hyfryd o Sant Edern a’r Bwthyn Glebe cyfagos gyda nodiadau mewn llawysgrifen o 1937 gan R. E. Kay. Mae hwn ar gael i'w weld ar wefan Coflein (https://coflein.gov.uk/cy). Fe wnaeth y braslun hwn fy ysbrydoli i estyn fy mhensiliau a chynhyrchu fy narlun fy hun o'r eglwys gan adfywio hen hobi a dechrau prosiect cyfnod cloi newydd!

Marion Sweeney

Am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â gwirfoddoli gyda Lefelau Byw, cysylltwch â Beccy Williams, Cydlynydd Gwirfoddoli Lefelau Byw.  rwilliams@gwentwildlife.org