#WythnosGwirfoddoli2020: Martyn Swain

Rwyf wedi bod yn rhan o gasglu data cyfrifiad 1881 ar gyfer sawl plwyf ers i mi gael fy mherswadio mewn diwrnod agored yn Nhŷ Tredegar fis Medi diwethaf. Ar yr olwg gyntaf, mi all ymddangos ychydig yn ddiflas, ond ddim o'r fath beth. Wrth i chi drawsgrifio'r data gwreiddiol, ac yn aml yn cadarnhau o ffynonellau eraill, ry’ch chi'n dod ar draws pob math o gofnodion diddorol.

Peter Britton

Peter Britton

Wrth drawsgrifio plwyf Dyffryn, des o hyd i’r hanes fod yr Arglwydd a’r Arglwyddes Tredegar wedi treulio noson y cyfrifiad yn eu cyfeiriad yn Llundain ac mai pen y staff sgerbwd Tredegar oedd was ifanc yn ei 20au cynnar. Ro’dd gen i Frederick Morgan a dreuliodd y noson yn nhŷ ei fam yn Nhrefonnen ac a roddodd ei alwedigaeth fel Bushman o Awstralia. Nododd un fenyw, yn y golofn ar gyfer Dall/Byddar/ Mud, mai anabledd ei gwas oedd "tymer ddrwg". Cyhoeddodd dynes arall fod ei gŵr wedi "rhedeg i ffwrdd". Ac yng Nghas-gwent roedd y galwedigaethau'n amrywio'n fawr o ddosbarthiadau proffesiynol, trwy grefftau adeiladu llongau a gweithwyr ffowndri haearn i drowyr bobinau ac amrywiaeth eang o siopwyr. Ro’dd gen i (hyd yn hyn) fabanod dienw rhwng 6 awr a 1.5 diwrnod oed. Hefyd pobl a anwyd dramor yn India, Jamaica, Denmarc, yr Eidal, yr Almaen, Ffrainc ac America.

Mae wedi bod yn ymarfer hynod ddiddorol hyd yma. Diolch byth am y rhyngrwyd, ond hoffwn i'r amgueddfeydd a'r archifau agor i ddatblygu rhywfaint o ymchwil I bersonoliaethau Cas-gwent yn yr 1870au a'r 1880au.

Martyn Swain


Am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â gwirfoddoli gyda Lefelau Byw, cysylltwch â Beccy Williams, Cydlynydd Gwirfoddoli Lefelau Byw:  rwilliams@gwentwildlife.org