BBC Countryfile

Cyhoeddiad arbennig: Bydd BBC Countryfile yn cyflwyno pennod gyfan wedi’i osod yn y Lefelau Gwent, i’w ddarlledu ar Ddydd Gŵyl Dewi ar y 1af o Fawrth 2020.

Bydd y bennod yn taflu golau ar raglen y Lefelau Byw a thirwedd unigryw'r Lefelau Gwent - o’i adferiad o’r môr i’r ffosydd ddraenio a’r rhwydweithiau grips sy’n cadw’r tir yn sych a’r cyrsiau dwr yn llawn bywyd gwyllt.

Bydd y bennod yn ffocysu ar waith Lefelau Byw yn adnewyddu’r ffosydd gan ddefnyddio technegau traddodiadol yn Nyffryn. Cewch weld sut y mae’r Athro Martin Bell yn cofnodi archaeoleg cynhanesyddol o’r blaendraeth oddi ar Goldcliff gan gynnwys sawl darganfyddiad nodedig.

Bydd cerfluniau Pobl y tirwedd yn gosod eu Gwaith gan gynnwys y cerflun helygen o Brinker Ann yng Nghors Magor. Bydd cyflwynwyr Matt Baker a Ellie Harrison yn helpu gweu gyda’r artistiaid Sarah Hatton a Mel Bastier.

Bydd y bennod hefyd yn cynnwys pysgotwyr traddodiadol Black Rock, ein partneriaid Gwent Wildlife Trust, adferiad llygod y dŵr yng Nghors Magor gyda gwirfoddolwyr, a chodi sbwriel ar hyd llwybr arfordir Cymry ger pont cludo Casnewydd.

Tiwniwch mewn ar Fawrth y 1af, sef Dydd Gŵyl Dewi, i ddarganfod treftadaeth anhygoel, bywyd natur, tirwedd a phobl y Lefelau Gwent. 

Matt ac Ellie gyda cherflunwyr Sarah Hatton (canol chwith) and Melanie Bastier

 


Cyflwynwyr Countryfile Matt Baker ac Ellie Harrison