Yr haf diwethaf, gofynnon i wirfoddolwyr ymuno â ni am wythnos o archeoleg ym Mhentref y Redwig. Er mawr lawenydd i ni, ymunodd dros 40 o bobl, gan ein helpu i gynnal cyfres gyfan o gloddiadau ac arolygon I ddysgu mwy am yr hanes cyfoethog sy'n gwneud y rhanbarth hwn mor unigryw.
Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio gyda ‘Pushing the Sensors’ i greu ‘Syllwr Map Hanesyddol y Lefelau Byw' - map ar-lein rhyngweithiol sy'n dod â'r holl ddarganfyddiadau hyn at ei gilydd mewn un lle, ac yn awr mae ein haen hanesyddol gyntaf bron yn barod i chi i’w harchwilio!
Mae’r haen hon yn ganlyniad ein prosiect mawr cyntaf sef ‘Mapio Tirlun y 1830au’, a gyda diolch i wirfoddolwyr RATS (Research and Transcription Service), mae posib gweld pwy oedd yn berchen ar bob cae ar y Gwastadeddau yn y 1830au.
Ein targed mawr nesaf yw dechrau chwilio am safleoedd archeolegol newydd y gallwn eu hychwanegu at y map gan edrych ar ddata LiDAR lleol (mapiau topograffig sy’n cael eu creu trwy sganio laser). Byddwn yn casglu'r holl wybodaeth i gwblhau'r trawsgrifiad LiDAR llawn cyntaf ar gyfer Gwastadeddau Gwent!
Mae'r offer sydd eu hangen arnom i wneud hyn i gyd at gael ar-lein, a dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i'n helpu i wneud hynny. Erioed wedi gwneud unrhyw beth tebyg o'r blaen? Dim problem! Mae gennym yr holl adnoddau y bydd eu hangen arnoch at gyfer dysgu sut i nodi safleoedd archeolegol posibl ymhlith y data LiDAR, ac offeryn hawdd ei ddefnyddio ar gyfer tynnu sylw at bethau pan gredwch eich bod wedi darganfod rhywbeth. A'r newyddion da yw, gallwch wneud y cyfan o gartref!
Diolch i'n gwirfoddolwyr anhygoel, mae'r Map Hanesyddol eisoes yn dod yn fyw. Ond mae yna lawer mwy y gallwn ni ychwanegu ato. Gyda chymaint ohonom yn aros gartref ar hyn o bryd, dyma gyfle perffaith i ymuno â'r prosiect a'n helpu i chwilio am archeoleg newydd o'ch soffa.
P'un a ydych am ddarganfod mwy am wirfoddoli, neu ddim ond eisiau gweld yr hyn yr ydym eisoes wedi'i gyflawni, ewch i livinglevelsgis.org.uk