#WythnosGwirfoddoli2020: 'Covidiot Dramor'

Mae wedi bod yn freuddwyd i mi gael teithio Seland Newydd ers amser maith. Wedi'r cyfan, os cawsoch eich geni ddiwedd y nawdegau, dyma ‘Middle Earth’; gwlad hudol llawn llosgfynyddoedd yn ffrwydro, edwigoedd swynol a gwastatir agored helaeth. Mae hyn wastad wedi apelio’n fawr ac rwy’ wedi treulio oriau lawer yn cynllunio fy nhaith ddelfrydol i'w gymryd rhwng yr ynysoedd. Ar ôl sicrhau lle ar gwrs Meistr mis Medi yma, penderfynais achub at y cyfle. Felly rhoddais y gorau i'm swydd, neidio ar awyren a mynd ‘down under’. (Nid wy’n hollol siŵr os yw Seland Newydd yn cyfri fel ‘Down Under’, ond fe wyddoch be dwi’n ei olygu). Ond, mae ffawd yn aml yn cynllwynio i roi sbrag ynddi, ac felly nid 3 wythnos ar ôl cyrraedd, roedd fy symudiadau wedi’u cyfyngu mewn ‘lockdown’ yr ochr arall i'r blaned. Wir, o'r holl flynyddoedd y gallwn i fod wedi dewis mynd i deithio, roedd yn rhaid i mi ddewis yr un yma yn doedd!

IMG-20200408-WA0012.jpg

Cyn i mi barhau, ychydig o gefndir i chi. Huw Grant ydw i ac yn achlysurol, rydw i wedi bod yn wirfoddolwr gyda'r Lefelau Byw ers tua Mehefin 2018. Rwy'n raddedig mewn Archeoleg o Brifysgol Caerdydd ac yn gwirfoddoli'n bennaf gyda Gavin Jones yn helpu i redeg gweithgareddau. Efallai eich bod wedi fy ngweld o gwmpas os ydych chi'n gwirfoddoli neu'n ymwelydd rheolaidd gan fy mod i wedi bod yn rhan o lawer o bethau gwahanol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae Gavin wedi gofyn i mi ysgrifennu erthygl fer ar gyfer y wefan (mae’n rhaid ei fod yn desperat). Felly heb wastraffu mwy o amser, dyma fyfyrdodau Prydeiniwr wedi ei gyfyngu.

Ar ôl cyrraedd Maes Awyr Wellington (cymal olaf fy nhaith i Seland Newydd) cefais fy nghodi gan Rohan, a’r bwriad oedd aros gydag ef am y pythefnos i ddilyn (neu dyna o’n i’n feddwl!) Wrth iddo ddangos i mi beth oedd beth yn ei gartref, cefais fy nharo gan olygfa Harbwr Wellington a'r ddinas y tu ôl iddo. O’r gwledydd rydw I wedi ymweld â nhw, mae Seland Newydd yn unigryw yn yr ystyr na allwch ddweud bo’ chi ar y ffordd i’r ddinas cyn i chi ei chyrraedd. Boed hynny gan hynodrwydd amgylcheddol neu ddyluniad bwriadol tydw’i ddim yn siŵr, ond cefais fy nharo ar unwaith gan ba mor wyrdd oedd Wellington. Mae cymaint o goed na allwch prin ddweud bo’ chi mewn dinas o gwbl. Roedd yr ardaloedd gwledig o gwmpas yr un mor syfrdanol a
thra bod Rohan yn ddiystyriol - “oh tydi hynny’n ddim byd” – mi fydd yn gadael argraff barhaol na anghofiai’n rhwydd.

Mae Seland Newydd yn wlad eithaf unigryw; tra ei fod yn dal i feddu ar fïom cyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid ei hun, roedd y trefedigaethau cynnar yno yn ei hystyried yn fersiwn “gyntefig” o'r DU ac yn ymdrechu'n galed iawn i'w throi'n fersiwn delfrydol o'u cartref blaenorol. O ganlyniad, un o'r pethau cyntaf y sylwais arno oedd pa mor gyfarwydd ydyw. Coed afalau wedi’u gwasgaru yma ac acw yn yr ardd, llwyni yn drwm gyda mwyar duon yn gorchuddio ffensys yn ddiog ac roedd y fronfraith a'r adar du yn uchel eu cloch. Tarfwyd rhywfaint ar y llun delfrydol yma pan fyddai pukeko (math o iâr ddŵr mawr gyda choesau hir) yn dod i'r golwg neu pan dwi’n sylwi ar y doreth o goed ffrwythau; mae ffrwythau sitrws, eirin gwlanog, tamarillos a chiwis i gyd yn rhagori yn hinsawdd gynnes ond mwyn Seland Newydd.

Efallai eich bod wedi clywed ar y newyddion am y 10,000 neu fwy o ddinasyddion Prydain yn styc yn Seland Newydd wrth i'r cyfyngiadau symud gymryd lle ac fe gyrhaeddodd heb lawer o rybudd. O edrych yn ôl, mae'n anhygoel pa mor gyflym y newidiodd popeth. Pan adewais i’r DU ar y 9fed o Fawrth, cyngor y llywodraeth oedd trin popeth fel yr arfer ond golchwch eich dwylo yn rheolaidd am o leiaf 20 eiliad. A dyna ni. Lai na phythefnos yn ddiweddarach roedd y DU ac yn wir bron pob gwlad dros y byd wedi’u cyfyngu’n llwyr. Yn fuan ar ôl i mi gyrraedd Seland Newydd es I mewn i Wellington i chwilio am swydd a chyfleoedd teithio (dyna pa mor normal oedd popeth yn dal i fod). Roedd haul hwyr yr haf yn danbaid ac roedd y strydoedd yn dal i fod dan eu sang. Roedd hipsters stryd Ciwba yn tyrru ynghyd, caffis a thai bwyta yn llawn sgyrsiau hamddenol ac roedd pob siop ar agor. Ar ôl sgwrsio gyda gweinyddes mewn caffi lleol, cefais wybod hyd yn oed am y llefydd gorau i ymgeisio am swyddi lletygarwch! Cyn belled ag yr oedd Wellington (ac yn wir llawer o'r byd ar y pwynt hwnnw) yn y cwestiwn, roedd yn fusnes fel arfer. Wythnos yn ddiweddarach cyhoeddodd Prif Weinidog Seland Newydd Jacinda Adern y Cyfyngiadau Symud Lefel 4 a dyna ddiwedd ar hynny. Felly dyna fi, wedi fy nghyfyngu ar ochr arall y blaned yn ystod y pandemig mwyaf ers Ffliw Sbaen. Rhaid i mi gyfaddef, cefais fy nal ychydig yn ddiarwybod.

Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn hynod ffodus yn fy amgylchiadau yma. Rydw i wedi bod yn treulio fy amser yn Wwoof-io (term nad yw'n adnabyddus yn y DU ond sy'n boblogaidd iawn yn Seland Newydd). Mae'n sefyll am Cyfleoedd Byd-eang ar Ffermydd Organig (WorldWide Opportunities on Organic Farms) ac yn y bôn mae'n golygu gweithio ar fferm am fwyd a llety, mae'n system eithaf syml ond mae'n gweithio'n dda iawn. Felly mae gen i fynediad at oddeutu 100 erw o dir ffermio hardd ac rwy'n cadw'n brysur yn gwneud gwaith fferm amrywiol a garddio. Fy nghynllun gwreiddiol oedd gweithio yma am bythefnos ond deufis yn ddiweddarach rydw i dal yma ac yn ysgrifennu'r erthygl hon o hen gyfrifiadur sydd wedi gweld dyddiau gwell yn y brif ystafell fyw. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa hon wedi fy siwtio'n dda iawn, ac o dan amgylchiadau y cyfyngiadau, does dim sydd llawer gwell na hyn. Os ydych chi erioed wedi cael y pleser o ymweld â Seland Newydd byddwch chi'n gwybod bod Kiwis yn cael eu hadnabod fel pobl garedig a hael ac, o fy mhrofiad i, mae hyn yn wir bob gair.

Gyda'r Cyfyngiadau Symud Lefel 4 bellach yn llacio’n raddol i Lefel 3 mae pobl yn gallu teithio, ac yn Wellington mae rhai tai bwyta a chaffis wedi ail-agor (er mewn niferoedd cyfyngedig iawn a gyda mesurau pellhau llym). Nid yw ymateb Seland Newydd i’r argyfwng wedi bod yn ddim llai nag eithriadol a disgwylir i ni allu llacio rhywfaint ar gyfyngiadau ymhellach mor gynnar â dydd Mercher nesaf!

Er nadhon oedd y daith yr oeddwn yn ei disgwyl o gwbl, serch hynny mae wedi bod yn brofiad bythgofiadwy. Rwy'n gwerthfawrogi pa mor ffodus ydw i o gymharu â llawer o rai eraill. Arhoswch yn ddiogel, cymerwch ofal a gobeithio eich gweld eto ar ôl i hyn fynd heibio.

Huw Grant

Am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â gwirfoddoli gyda Lefelau Byw, cysylltwch â Beccy Williams, Cydlynydd Gwirfoddoli Lefelau Byw.  rwilliams@gwentwildlife.org