Mynd i'r afael â thipio anghyfreithlon

stop and search1.jpg

Bydd pobl yn ymweld â Gwastadeddau Gwent i fwynhau’r lleoliad tawel, gwylio bywyd gwyllt, mynd am dro neu daith hamddenol ar eu beic. Mae’n lleoliad prydferth adnabyddus; yn rhywle i ddianc iddo o hwrlibwrli’r ddinas.

Ar ôl ymweld, bydd y rhan fwyaf o bobl yn gadael yr ardal yn lân ac yn daclus, i’r bobl nesaf allu mwynhau popeth sydd ar gynnig yno. Fodd bynnag, d’yw rhai pobl ddim yn rhoi’r parch haeddiannol i’r ardal a’r bobl sy’n byw yno.  Mae gwastraff yn broblem, gyda thipio anghyfreithlon yn un o’r troseddau sy’n digwydd amlaf.

Oherwydd natur dawel yr ardal hon, bydd rhai pobl yn teithio yma i gael gwared â gwastraff ac ysbwriel yn anghyfreithlon.  Mae hon yn broblem ddifrifol. Yn gyntaf, mae’n achosi perygl i iechyd y bobl sy’n byw a gweithio yn yr ardal, a’r rhai sy’n ymweld â hi. Mae’n llygru’r amgylchedd naturiol, gan achosi risg i fywyd gwyllt. Mae hefyd yn ddolur llygad, ac mae’r gwaith o symud y gwastraff oddi yno yn aml yn gostus.

Dyna pam ein bod ni wedi sefydlu prosiect Tipio Anghyfreithlon - Troi Llanast yn Llwyni, sy’n golygu bod swyddog gorfodaeth rhan-amser yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid, i fynd i’r afael â’r broblem. Mae’r prosiect yn gweithio mewn tair ffordd. Yn gyntaf, rydyn ni’n anelu at addysgu’r bobl sy’n byw yn yr ardal. Rydyn ni’n ymweld ag ysgolion ac ystafelloedd dosbarth, i ddangos i blant a myfyrwyr bwysigrwydd parchu’r dirwedd.  Yn ail, rydyn ni’n codi ymwybyddiaeth ac yn darparu gwybodaeth i’r gymuned ar sut y dylen nhw fod yn gwaredu gwastraff yn briodol.

Yn olaf, rydyn ni’n ymyrryd, sy’n golygu gweithredu’n fwy uniongyrchol. Rydyn ni wedi gosod arwyddion dim tipio anghyfreithlon, teledu cylch cyfyng, yn gweithredu camerâu cudd ac yn trefnu gwaith glanhau. Mae cymorth gwirfoddolwyr yn hanfodol yn hyn o beth. Diolch i’w gwaith caled a’u hymroddiad hwy, rydyn ni wedi gallu symud swm anferth o wastraff o Wastadeddau Gwent. Ym mis Medi, symudodd gwirfoddolwyr 3.5 tunnell o wastraff o Dyffryn. Dilynwyd hyn gan sesiwn blannu, pryd y buom yn plannu bylbiau cennin Pedr a blodau’r gwynt ar yr ardaloedd a gafodd eu clirio. Drwy wneud hyn, rydyn ni’n cael gwared â ‘llanast’ tipio anghyfreithlon ac yn rhoi ‘llwyni’ o flodau hyfryd yn eu lle!

Mae ein partneriaid hefyd yn chwarae rhan hanfodol o ran atal tipio anghyfreithlon pellach. Yn ddiweddar, bu ein partneriaid ac arweinwyr y prosiect, Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal archwiliadau o gludwyr gwastraff ar hap gyda Heddlu De Cymru, Cyngor Caerdydd a Chyngor Casnewydd. Stopiwyd pedair fan a oedd yn cario gwastraff heb drwydded, a gwelwyd ysbwriel yn cael ei losgi, a chynhelir ymchwiliad i hyn yn awr. Gobeithiwn y bydd yn helpu i newid agweddau ac yn cael effaith hirdymor ar yr ardal. Dewch o hyd i fanylion yma ynglŷn â sut y gallwch wirio a oes gan safle ganiatâd, trwydded neu eithriad i weithredu'n gyfreithlon

Ewch i’n  gwefan i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud i leihau tipio anghyfreithlon ar Wastadeddau Gwent.

 
wast carrying.jpg