#WythnosGwirfoddoli2020: Laura Phelps: 'Bywyd ar y Lefelau'

Fe wnes i wirfoddoli gyda Marsha O'Mahony ar y prosiect Bywyd ar y Lefelau dros gyfnod o sawl mis yn 2019. Fe wnes i arsylwi, casglu a thrawsgrifio cyfweliadau hanes llafar, gwneud rhywfaint o ymchwil archifol, a gwneud nifer o ymweliadau safle gyda Marsha.

IMG_20200602_091025.jpg

Roedd y profiad yn amrywiol diolch i hyblygrwydd Marsha a ro’n i'n teimlo fy mod i'n cael fy nghefnogi i ddysgu sgiliau newydd. Roedd yn brofiad arbennig o ddefnyddiol ar yr adeg honno yn fy mywyd oherwydd ro’n i’n gwneud cais am ddoethuriaeth ym maes ymchwil treftadaeth ac yn gallu cyfeirio at y gwirfoddoli hwn ar fy ngheisiadau. Roedd hefyd yn werthfawr i mi yn bersonol am gwpl o resymau:

(1) Ro’n i'n newydd I Gymru ac fe helpodd fi i ddeall yr ardal leol, ei hanes a'i hamgylchedd;

a (2) roedd yn dda siarad â rhywun a oedd â diddordeb yn yr un pwnc (a allai fod yn eithaf arbenigol)!

Yn wir, hoffwn pe gallwn fod wedi cymryd mwy o ran, ac yn hapus i wirfoddoli eto pe bai unrhyw brosiectau dilynol yn digwydd.

Laura Phelps


Am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â gwirfoddoli gyda Lefelau Byw, cysylltwch â Beccy Williams, Cydlynydd Gwirfoddoli Lefelau Byw:  rwilliams@gwentwildlife.org