#WythnosGwirfoddoli2020: Mwynhau yn y mwd!

Ym mis Mawrth y llynedd gwelais bost diddorol ar twitter gan brosiect ‘Y Lefelau Byw’, ynglŷn â chyfle i dreulio 4 diwrnod ar gloddfa archeolegol ar Wastadeddau Gwent. Nawr ers blynyddoedd ro’n i (rwy’n sicr) wedi diflasu fy nheulu a ffrindiau, gan ddweud sawl gwaith, ‘Pe bawn i’n cael fy amser eto, archeolegydd fyddwn i’, ond nid o’n i erioed wedi gwneud unrhyw beth yn ei gylch.

I ddechrau, gan fy mod yn gweithio amser llawn, meddyliais na fyddwn yn gallu mynd, ond er mawr syndod I mi, pan edrychais ar y dyddiadau, ro’n i’n rhydd. Ar wahân i swnio'n ddiddorol, roedd y gloddfa hon ar stepen fy nrws ac am ddim, felly fe wnes i archebu lle ar unwaith.

Roedd y gloddfa yn drefnus iawn ac yn ddefnyddiol, ac ar y diwrnod cyntaf gwnaethon ni ddysgu'r pethau sylfaenol am yr hyn yr oedden ni am ei wneud a hanes ac archeoleg yr ardal. Ein harweinydd oedd yr Athro Martin Bell o Brifysgol Reading. Roedd yn wirioneddol angerddol am yr ardal - mae wedi bod yn dod i Wastadeddau Gwent ers dros 20 mlynedd ac fe’i gwnaeth yn ddiddorol ac yn hawdd ei ddeall. Roedd tua 12 ohonom yn y grŵp - llawer o bobl wedi ymddeol, gan gynnwys un person a oedd wedi ymddeol yr wythnos flaenorol!

troop crop.jpg

Treuliwyd diwrnodau 2 a 3 allan ar y fflatiau llaid ger Pentref Llanbedr Gwynllŵg – yn dibynnu ar y llanw. Nid oeddwn i erioed wedi sylweddoli o'r blaen faint o wahanol fathau o fwd sydd, gan gynnwys y math llithrig iawn, y math sy'n achosi rhywun i gwympo ar ei ben ôl!

Un o'r pethau mwyaf cyffrous i mi, oedd ein bod wedi dod o hyd i offer llaw o'r Oes Efydd (tua 3,000 mlwydd oed), wedi'i wneud allan o gorn carw. Tynnodd yr Athro Bell sylw at ddarn dinod o wymon a dywedodd, mae’n naill ai’n tyfu ar garreg neu asgwrn’, a wel, fe gafwyd mai’r offer llaw corn carw ydoedd, pan wnaethon ni ei dynnu o’r mwd.

group.png

Roedden ni dan do ar Ddiwrnod 4, yn glanhau a chofnodi'r holl bethau (darganfyddiadau) yr oedden ni wedi'u darganfod. Unwaith yr oedd yr offer llaw corn carw yn lân, gallem weld lle’r oedd person llaw dde wedi ei ddal, gan ei wisgo'n llyfn yn y broses. Teimlad anhygoel oedd gwybod bod y person olaf i ddal hwn wedi byw sawl mil o flynyddoedd yn ôl.

Ers hynny, mae fy niddordeb mewn archeoleg wedi mynd o nerth i nerth. Rydw i wedi gwneud dau gwrs gyda'r nos ym Mhrifysgol Caerdydd (cymerwch gip arnyn nhw - maen nhw'n gwneud pob math o gyrsiau) ac fe wnes i wythnos o gloddio yng ngorllewin Cymru hefyd, fel rhan o brosiect Ymddiriedolaeth Strata Florida, profiad gwych arall, lle dysges i lawer a chwrdd â phobl hyfryd.

Felly, fy nghred i yw, os y’ch chi'n gweld rhywbeth sy'n edrych yn ddiddorol - ewch amdani – does wybod ble y gallai fynd â chi!

Ceri Meloy


Am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â gwirfoddoli gyda Lefelau Byw, cysylltwch â Beccy Williams, Cydlynydd Gwirfoddoli Lefelau Byw.  rwilliams@gwentwildlife.org