I ddathlu tirwedd hanesyddol, treftadaeth gyfoethog a bywyd gwyllt rhyfeddol Gwastadeddau Gwent, rydyn ni wedi ffurfio partneriaeth â’r Tin Shed Theatre Co. i greu Prosiect Celf Cymunedol ‘Big Skies’. Dyma gydweithrediad sy’n anelu at ddod â’r holl elfennau sy’n gwneud Gwastadeddau Gwent yn arbennig i'r cyhoedd at ei gilydd mewn digwyddiad mawr yn llawn perfformiadau, straeon a chelf byw.
Y llynedd, cynhaliwyd ein digwyddiad Big Skies cyntaf yn RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd. Roedd yn gyfle i archwilio’r ardal a dysgu mwy am yr adar sy’n byw yno ac yn mudo dros y gaeaf drwy gyfrwng perfformiadau ac arddangosfeydd dros dro.
Eleni, cynhaliwyd ein hail ddigwyddiad ‘Big Skies’ yng Nghastell hardd Cil-y-coed, a daeth 270 o bobl yno i fwynhau. Yn y prynhawn, bu’r gynulleidfa’n crwydro ac yn archwilio tiroedd y castell, yn mwynhau perfformiadau, gosodiadau rhyngweithiol a gweithdai crefft dros dro. Ar ddyfodiad y cyfnos, cynhaliodd yr awdur a’r berfformwraig Christine Watkins sesiwn adrodd straeon y tu mewn i’r castell, a oedd wedi’i addurno gyda llusernau trawiadol. Daeth y digwyddiad i ben gyda ‘phicnic y gwyll’ ac arddangosfa anhygoel o dân gwyllt a goleuadau.
Yr oedd yn rhan o’r Prosiect Celf Cymunedol Big Skies ehangach, sy’n rhedeg am dair blynedd. Mae’n cynnwys gweithdai creadigol gyda phlant ysgolion lleol yn ogystal â chydweithio gyda grwpiau cymunedol eraill. Eleni, buom yn cydweithio gydag ysgolion cynradd lleol a Choleg Gwent i wneud Big Skies yn llwyddiant.
Y flwyddyn nesaf fydd yr olaf ar gyfer y prosiect hwn, felly hoffem sicrhau bod Big Skies 2020 mor anhygoel â phosibl. Cadwch olwg am ragor o wybodaeth dros y misoedd i ddod.