Rhufeiniaid Rhyfeddol a Mynachod Mwdlyd!

IMG_5298.jpg

'Dyw'r tywydd ddim wedi bod yn garedig iawn i ni dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Rydyn ni wedi cael diwrnodau gwyntog a glawiog iawn a dyna oedd yn ein disgwyl ni ar ddydd Sadwrn, 28ain o Fedi yn Nhŷ Tredegar o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn ffodus, ni wnaeth hyn atal cannoedd o bobl rhag mynychu ein hail Ddiwrnod Hanes Gwastadeddau Gwent blynyddol, ‘Rhufeiniaid Rhyfeddol a Mynachod Mwdlyd’.

Y syniad y tu ôl i'r digwyddiad oedd cynnig cyfle i bob math o bobl i ddysgu mwy am Wastadeddau Gwent, o deuluoedd i haneswyr selog. Mae hanes y dirwedd hon yn rhyfeddol. Ymhell cyn i fodau dynol droedio'r tir hwn, roedd y gwastadedd arfordirol isel hwn yn gartref i ddeinosoriaid. Dros y cyfnodau canlynol, profodd yr ardal stormydd enfawr ac oesoedd iâ. Yn ystod yr oes Fesolithig, dechreuodd bodau dynol siapio'r ardal, wrth i helwyr-gasglwyr grwydro'r tir yn chwilio am fwyd. Gadawodd y Rhufeiniaid eu hôl gyda’u system gymhleth o ffosydd a adferwyd yn ddiweddarach gan fynachod mwdlyd canoloesol. Ers hynny, mae pobl wedi ffermio a chreu bywoliaeth iddyn nhw'u hunain ar y Gwastadeddau hyd at heddiw.

Roedd y gorffennol anhygoel hwn i'w weld i gyd yn ystod y digwyddiad, a chafodd dros 600 o bobl gyfle i weld rhai o'r gweddillion hynafol, yr arteffactau a'r darganfyddiadau archeolegol sy'n ein helpu i ddeall mwy am hanes yr ardal. Yn ystod y diwrnod cafwyd ailgreadau o sgarmesau milwyr Rhufeinig a phrofodd frwydr rhyngddynt â deinosor t-rex enfawr yn boblogaidd iawn!

IMG_5360.jpg

Cynhaliwyd y digwyddiad ochr yn ochr â marchnad Bwyd a Chrefft Cotyledon, ac roeddem yn ffodus i gael cwmni sawl grŵp lleol diddorol, pob un yn arbenigwyr yn eu maes. Rhannodd gwirfoddolwyr y prosiect RATS (llysenw'r Research and Transcription Service) yr hyn maen nhw wedi darganfod trwy'r prosiectau ‘Ail-afael yn y Dirwedd Hanesyddol’ a'r ‘Dilyw Mawr-1607’. Hefyd, rhoddwyd ychydig o gefndir ar hanes mwy diweddar y cymunedau sy'n byw ar y Gwastadeddau gan dimau Prosiect Hanes Llafar ‘Bywyd ar y Gwasteddau’ a Grŵp Hanes y Redwig.

Ymhlith yr arddangoswyr eraill oedd Archifau Gwent, Cymdeithas y Cwrwgl, Partneriaeth Aber yr Hafren, Pysgodfa Rhwydi Black Rock Lave, Amgueddfa Caerllion, Dig Ventures Archaeology, Pont Gludo Casnewydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Casnewydd a Llong Ganoloesol Casnewydd. Mae'r rhestr hir hon o sefydliadau a chymdeithasau yn profi'r cyfoeth a'r amrywiaeth o hanes sydd gan Wastadeddau Gwent i'w gynnig i weddill y wlad.

Roedd yn ddigwyddiad bendigedig gyda digon i'w wneud a'i weld i'r teulu cyfan. Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth yno, yn ogystal â'r arddangoswyr a phawb a rannodd eu gwybodaeth werthfawr o'r dirwedd unigryw hon ... a diolch yn arbennig i'n partner, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, am gynnal y digwyddiad yn Nhŷ Tredegar.

Mae gennym ni ddigonedd o ddigwyddiadau a chyfleoedd gwirfoddoli i ddod dros y gaeaf hefyd. Ewch yma i ddarganfod mwy.