Dysgu ar y Gwastadeddau

Bydd y prosiect LLS-4 Dysgu ar y Gwastadeddau yn creu nifer o weithgareddau addysgu newydd er mwy i blant, pobl ifanc a theuluoedd ddarganfod treftadaeth naturiol, ddiwylliannol a hanesyddol y Gwastadeddau.

Ers mis Mawrth 2018, rydym wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r holl bartneriaid i ledaenu'r gair am dreftadaeth anhygoel Gwastadeddau Gwent ac yn dysgu llawer ein hunain ar hyd y ffordd. Rydym wedi cyflogi ymgynghorydd i gynhyrchu adnodd addysgol i athrawon ar dreftadaeth leol i ysbrydoli plant i ymddiddori yn y tirlun o'u hamgylch. Mae nifer o athrawon ac addysgwyr lleol wedi ein cynorthwyo gan roi arweiniad ar sut i wneud hyn yn adnodd y gellir ei ddefnyddio. Byddwn yn gwahodd athrawon i brofi'r adnodd ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Rydym wedi cynnal chwe digwyddiad treftadaeth yng Ngwlyptiroedd Casnewydd a Chors Magwyr a fynychwyd gan 300 o blant ac oedolion. Roedd hyn yn cynnwys 2 Bioblitzes, 2 ddiwrnod hwyl treftadaeth a bywyd gwyllt a sesiwn i deuluoedd sy'n cael eu haddysgu yn y cartref am draddodiadau Celtaidd. Rydym hefyd wedi darparu 10 sesiwn addysg yn canolbwyntio ar dreftadaeth naturiol Gwastadeddau Gwent yng Nghors Magwyr a Gwlyptiroedd Casnewydd. Cyflwynodd pob sesiwn bwysigrwydd Gwastadeddau Gwent ar gyfer natur a dynoliaeth. Mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn helpu i gyflwyno'r sesiynau hyn ac rydym yn croesawu eraill i gymryd rhan yn y flwyddyn nesaf hon pan fyddwn yn gobeithio cynnal mwy o sesiynau yn Nhŷ Tredegar, Parc Tredelerch a Pharc Rogiet.

Bydd digonedd o ddigwyddiadau blwyddyn nesaf ac mae bob amser croeso i wirfoddolwyr ddod draw a helpu - gweler ein hysbyseb am wirfoddolwyr digwyddiadau addysgol yma.

Ym mis Tachwedd, buom yn rhedeg dau weithdy Datgelu Gwastadeddau Gwent llwyddiannus yng Ngwlyptiroedd Casnewydd lle gwahoddwyd 80 o staff partneriaid allweddol a gwirfoddolwyr i glywed cyfres o sgyrsiau a oedd yn archwilio hanes Gwastadeddau Gwent trwy gyfnodau hanesyddol gwahanol. Cyflwynwyd y sgyrsiau gan yr Athro Martin Bell (Prifysgol Reading), yr Athro Stephen Rippon (Prifysgol Caerwysg), Mark Lewis (Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru), Rose Hewlett (Prifysgol Bryste), Tara Okon (RSPB Cymru), Helen Gottschalk (RSPB Cymru) a Jeremy White (Gwirfoddolwr RSPB Cymru). Trafodwyd hanes cynnar gan gynnwys y straeon diddorol am olion traed anifeiliaid a dynol Mesolithig sy'n dal i oroesi yn Aber Afon Hafren, defnydd tir yn ystod oes y Rhufeiniaid a'r Canoloesoedd a chreu Comisiynwyr Carthffosydd Sir Fynwy o dan Harri VIII.

Daeth y diwrnod i ben gyda thaith cerdded o gwmpas y warchodfa i wylio bywyd gwyllt, a gwelwyd arddangosfa syfrdanol o gawod o ddrudwennod yn cynnwys tua 10,000 o adar. Cadwch lygaid ar ein Calendr Digwyddiadau ar gyfer sgyrsiau pellach i wirfoddolwyr sydd â diddordeb y flwyddyn nesaf.

Levels Learning Project Page.jpg

Arweinydd y Prosiect
Ymddiriedolaeth Natur Gwent

Amserlen y Prosiect
Awst 2018 – Mehefin 2021

Cyfeirnod Lefelau Byw
LLS-4

Cyswllt
Kath Barclay
Swyddog Addysg YNG
E-bost