Yn dathlu hanes, treftadaeth a chysylltiad dyn gyda’r tir, mae prosiect LLS-7 Celfyddydau Cymunedol ‘Awyr Eang’ yn gymysgedd o theatr, celf gyhoeddus gweithdai cymunedol a digwyddiadau llawn cyffro o gwmpas Gwastadeddau Gwent. Dros y tair blynedd nesaf bydd y prosiect yn cydweithio gydag ysgolion a chymunedau i ddatblygu digwyddiadau cyffrous ar hyd a lled y tirlun o Gas-gwent i Gaerdydd.
Cynhaliwyd ein digwyddiad cyntaf ar Ragfyr y 1af yng Ngwlyptiroedd Casnewydd. Daeth dros 100 o bobl mewn tywydd garw i fwynhau’r dathliadau artistig gan bartneriaid y prosiect Theatr Tin Shed, grŵp theatr leol o Gasnewydd. Gwahoddwyd ymwelwyr i grwydro a darganfod y nifer o wahanol lefydd ar y Gwastadeddau, yn archwilio beth mae’r Gwlyptiroedd a Gwastadeddau Gwent yn eu golygu i bobl, yn canolbwyntio ar y themâu mudo adar y gaeaf, bywyd gwyllt, y tirlun unigryw, arwyddocâd o ddŵr a’r rhyfeddod naturiol hwnnw, yr haid o ddrudwennod…
Wedi gwisgo’n gynnes mewn hetiau a sgarffiau ac yn cydio’n dynn mewn diodydd cynnes, aeth ymwelwyr i grwydro’r safle rhyfeddol gan fwynhau’r pethau annisgwyl oedd yn llechu rownd pob cornel newydd ar ffurf perfformiadau fflach a gosodweithiau diddorol. Gwelwyd Gwesty Trychfilod efo’i groesawydd ei hun yn derbyn malwod, gwlithod, gwenyn a thrychfilod eraill i’r gwesty am hoe fach dros nos, a daeth y dydd i ben mewn cyfnos tywyll ger y Goleudy Dwyrain Wysg hanesyddol, ynghyd â chawod o ddrudwennod! Roedd cyfle hefyd i greu ‘drudwy ar ffyn' a gweld ysgrifennu creadigol disgyblion Blwyddyn Pump o Ysgol Bishop Childs o Laneirwg, Ysgol Gynradd Crindau o Gasnewydd ac Ysgol Parc Tredegar o Ddyffryn.
Hoffwn ni wahodd ysgolion a chymunedau i gymryd rhan, gweld a chreu pethau hardd yn 2019. Diddordeb? Cysylltwch â Gavin!