Llun: Peter Britton
Mae'r prosiect LLS-2 Adennill y Tirlun Hanesyddol wedi'i dargedu at unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes y Gwastadeddau.
Bydd y prosiect cyffrous yma yn darparu gweithgareddau gwirfoddoli a goruchwyliaeth a hyfforddiant proffesiynol i helpu pobl ymgymryd ag ystod eang o dasgau diwylliannol a hanesyddol, gan gynnwys: ymchwil archif, mapio GIS, cofnodi adeiladau, arolygon ar droed, archeoleg a chyflwyno cofnodion i'r Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol.
Bydd gweithgareddau sy'n seiliedig ar archifau yn cyflwyno gwirfoddolwyr i ymchwil ddogfennol, a datblygu sgiliau wrth ddadansoddi data a thrawsgrifio. Bydd gweithgareddau maes a chartograffeg yn caniatáu i wirfoddolwyr arsylwi’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwil archifol yn uniongyrchol a bydd arolygon ar droed yn ein helpu i ddarganfod pa agweddau o fapiau hanesyddol sydd wedi goroesi’r tirlun modern. Lle bo modd, bydd palu archeolegol yn cael eu cynnal ar draws nifer o bentrefi hanesyddol yn y Gwastadeddau a bydd gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant i ddeall a dehongli'r adnoddau archeolegol a gladdwyd.
Bydd y prosiect yn defnyddio cofnodion, mapiau Comisiynwyr Carthffosydd Sir Fynwy a chofnodion llys i archwilio datblygiad tirwedd y Gwastadeddau.
Mae’r cofnodion yn datgelu’r effaith o lifogydd llanw ac afonol, dilyniant tirddaliadaeth, patrymau aneddiadau, llywodraethu lleol ar waith, a llawer, llawer mwy. Y carthffosydd yn yr achos yma yw dyfrffosydd, unai rhai naturiol neu rhai sydd wedi eu creu gan ddyn. Ledled Cymru a Lloegr, roedd gan gomisiynwyr carthffosiaeth awdurdodaeth dros ddraenio a morgloddiau ar draws iseldiroedd arfordirol yn cynnwys Gwastadeddau Gwent, Gwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw ar bwys Afon Aber Hafren.
Llys cofnodion oedd Llys Carthffosydd, yn gyfwerth â Llysoedd Chwarter, ac roedd llawer o’i gomisiynwyr yn Ynadon Heddwch. Roedd gwaith y llys yn effeithio ar bron bawb a oedd yn trigo ar y Gwastadeddau oherwydd mai’r tenantiaid a’r tirfeddianwyr oedd yn gyfrifol am atgyweirio a’r cynnal a chadw. Mae’r cofnodion felly yn gorlifo gydag enwau personol.
Efallai i chi feddwl am lygod mawr pan welsoch chi’r gair ‘carthffosydd’! Roedd y diweddar Rick Turner (a oedd yn allweddol wrth ddatblygu prosiect y Lefelau Byw) o'r farn y dylai'r grŵp hanes Gwasanaeth Ymchwil a Thrawsgrifio cael ei alw'n ‘RATS’ (Research and Transcription Service) mewn cydnabyddiaeth i’r gwaith sy’n gwneud deunydd o gofnodion Llys Carthffosydd Sir Fynwy. Gall iaith y cofnodion hyn fod yn her. Maent yn cynnwys llawer o dermau hynafol nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach, ac yn aml yn unigryw i ddraenio tir. Crëwyd Rick y 'Levels Lingo', rhestr o eirfa a thermau unigryw a gaiff ei ddatblygu ymhellach yn ystod prosiect y Lefelau Byw.
Bydd yr ymchwil a wneir gan y ‘RATS’ yn cael ei ategu gan rannau eraill y prosiect. Mae'r rhain yn cynnwys arolygon maes, ymchwiliadau archeolegol a mapio GIS. Felly, dewiswyd y testunau ymchwil canlynol yn ofalus i gyfoethogi nid yn unig yr agweddau hyn, ond hefyd yn gymorth i greu byrddau dehongli a hanes llafar.
Gwastadeddau Gwent 100 mlynedd yn ôl
Gwastadeddau Gwent 200 mlynedd yn ôl
Effaith y rheilffyrdd a draenio tir ar dirlun
Llifogydd llanw 1883
Llifogydd afonol 1947
Y ‘Storm Fawr’ 1703
Enwau lleoedd ac enwau personol o arolygon a mapiau
Pwy oedd yn byw ymhle ar Wastadeddau Gwent ym 1881
Digwyddiad Pont Rhymni ym 1846
Gwelliant ‘Windmill Reen’, 1883
Ar hyn o bryd mae'r dogfennau hanesyddol sy'n ymwneud â llifogydd llanw mawr 1607 yn cael eu hastudio gan fyfyriwr PhD Prifysgol Bryste sydd ynghlwm â phrosiect Adennill y Tirlun Hanesyddol. Y gobaith yw y bydd pob aelod o ‘RATS’ yn rhannu eu gwaith gyda chynulleidfa ehangach - boed hynny trwy fyrddau stori yn y Diwrnodau Hanes, o fewn cyhoeddiad Lefelau Byw, ar y wefan neu sgwrs fer. Dyma gyfle cyffrous i wirfoddolwyr sy’n brofiadol ac yn ddibrofiad o fewn y byd ymchwil. Peidiwch â gofidio - byddwch chi'n cael eich goruchwylio a'ch cefnogi'n llawn trwy gydol y prosesau ymchwilio ac ysgrifennu. Ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn llawn felly os ydych chi eisiau ymuno a’r rhestr aros er mwyn cymryd rhan yn nes ymlaen, plîs gadewch i ni wybod trwy e-bostio info@livinglevels.org.uk